layout layout layout layout layout
Nolan uPVC windows
 

Astudiaeth Achos : prosiect Arbennig : Prosiect 1
Roedd perchnogion y tŷ canol teras, tri llawr, Fictorianaidd hwn eisiau cael mynediad i'w gardd o'r llawr canol gyda drysau Ffrengig yn arwain i'r ardal teras. Yn ychwanegol at osod y drysau, fe ofynnon nhw i Nolan uPVC i adeiladu'r teras fel y byddai'n gwneud yr ardd yn fwy, yn darparu man storio sych oddi tano ac yn rhoi'r posibilrwydd o ychwanegu ystafell haul yn y dyfodol. Dyluniodd ac adeiladodd Nolan uPVC dri philer fel sail i'r teras concrit. Fe rendro'n nhw'r holl strwythur, gosod y slabiau calchfaen du a chwblhau oddi tano gyda chladin uPVC.

Mr a Mrs Cottrell, Y Mwmblws, Abertawe
"Roedd hon yn dasg arbennig o anodd gan nad oes mynedfa i'r tŷ yn y cefn na'r ochr ac roedd yr holl ddeunyddiau a ddefnyddiwyd yn hynod o drwm er mwyn gallu gwrthsefyll pwysau ystafell haul pe bawn ni'n dymuno adeiladu un yn y dyfodol. Fodd bynnag, roedd staff Nolan uPVC yn ofalus ac yn ystyrlon ac roedd y dyluniad terfynol yn arloesol ac yn hynod o gadarn. Rydym wedi gwirioni gyda'r canlyniad."

Ffoniwch ni ar 0845 600 90 80, am ragor o gyngor a gwybodaeth.

Prosiectau Arbennig

 
 
 
 
© Nolan uPVC 2007