Cynnyrch : Ystafelloedd Haul : Cyflwyniad
Mae ychwanegu ystafell haul at y tŷ yn un o'r tri pheth mwyaf poblogaidd mae perchennog tŷ am eu gwneud, ac felly mae'n bwysig iawn dod o hyd i gwmni sy'n gallu helpu gyda phob agwedd o'r prosiect. Mae angen cwmni sy'n ddigon profiadol, ac sy'n ymrwymo i wneud gwaith rhagorol, fel bod yr holl brofiad, o'r cychwyn i'r diwedd, mor esmwyth a dibryder ag sy'n bosibl.
Mae profiad Nolan uPVC o bwys mawr. Ers sefydlu'r cwmni yn 1987, 'rydym ni wedi dylunio ac adeiladu miloedd o ystafelloedd haul uPVC ar draws Cymru, pob un wedi'i gynhyrchu yn ein pencadlys yng Ngorllewin Cymru, a phob un wedi'i ddylunio i anghenion cwsmer unigol.
Mae'r cynnyrch o safon uchel, cynhaliaeth isel, sy'n para'n dda, ac yn steilus gyda nodweddion diogelwch eithriadol, a chredwn fod ein gwasanaeth cyflawn ar gyfer ystafelloedd haul yn wasanaeth heb ei ail.
Paham? Oherwydd ei bod hi'n haws i ni, trwy gyflogi staff gyda'r holl sgiliau angenrheidiol - bricwyr, plastrwyr, seiri coed - reoli'n timoedd gosod a chynnal y safon uchel yr ydym mor enwog amdani.
'Rydym hefyd yn gwneud y pethau bach ychwanegol i hysbysu'n cwsmeriaid o'r hyn sydd ar y gweill. Ar ôl cyhoeddi amserlen fras o'r gwaith sydd i'w wneud, bydd ein rheolwr gosodiadau ar gael ar ei ffôn symudol ar bob adeg i ymateb i unrhyw ymholiadau.
Gan fod ansawdd adeiladu'n allweddol i Nolan uPVC, mae'r cyfan o'n gwaith yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu, gan gynnwys 100 mm ynysiad llawr, a 50 mm ynysiad waliau ceudod. Byddwn hefyd yn palu sylfeini'r ystafell haul hyd at 1 medr i'r tir lle bo angen, ac yr ydym bob amser yn defnyddio uniadau gwal 'Furfix', gan ein bod yn credu fod hyn yn ddull cryfach o glymu ystafell haul at wal tŷ.
Mae ein gwarant 10 mlynedd hefyd yn ein gwahanu o'r lleill, gan ei fod yn cynnwys POPETH. Nid y dolenni, colfachau, a gwydr yn unig, ond y cyfan, o osod y briciau a phlastro i waith trydanol a gosod gwres tanlawr. I weld enghraifft fach o'n gwaith, a chlywed barn ein cwsmeriaid, ewch i'r adran o'r wefan sy'n cynnwys astudiaethau achos.
Os ydych am wybod mwy am ein cynnyrch, cysylltwch â ni naill ai trwy e/bost neu drwy ffonio 0845 600 90 80 |