layout layout layout layout layout
 

Cynnyrch : Ystafelloedd Haul : Arddulliau
Nid oes byth dau gynllun ystafell haul yr un peth gyda Nolan uPVC. Mae cymaint o amrywiaeth maint, arddull, agoriad ffenestri, dewisiadau to a gwydr, lliw ac ategolion, fel bod pob ystafell haul yn unigryw i gwsmer penodol. Fodd bynnag, fel man cychwyn, a chanllaw, dyma rai o'r dewisiadau mwyaf poblogaidd.

Edwardaidd/Sioraidd
Mae ystafelloedd haul Edwardaidd/Sioraidd yn syml a chain o ran dyluniad, gyda llinellau clasurol a syth sy'n nodweddiadol o oes a fu. Er bod tuedd iddynt fod yn fach, mae'r corneli sgwaronglog yn gwneud iddyn nhw ymddangos a theimlo'n fawr iawn o'r tu mewn.

Fictoraidd
Mae ystafell haul Fictoraidd yn gain ei dyluniad, gyda tho onglog, trum tŷ addurnol, a therfyniad a ffasedau gwahanol (ochrau 3 neu 5 ongl) i gydweddu â'r lleoliad neu ag arddull yr unigolyn. Mae system to arloesol yn ei wneud yn eithaf aml-bwrpas, gan fod modd amrywio'r lled a'r codiad i ymateb i ofynion penodol.

Ystafell haul ar oledd/ Modern
Mae tuedd i ystafell haul ar oledd fod yn fodern a syml ei ddyluniad, ac yn aml fe'i gelwir yn ystafell haul neu ystafell ardd. Nid yw'r to mor uchel ag arddull Fictoraidd neu Edwardaidd, ac mae'n arbennig o addas ar gyfer byngalo, neu dŷ sydd â chyfyngiad ar ei uchder.

Siâp P
Mae ystafell haul siâp P yn ddewis perffaith os ydych am gael y lle mwyaf posib, gydag un pen yn ymestyn allan ymhellach na'r gweddill. Mae'n gyfuniad o'r arddull Fictoraidd gyda tho ar oledd, a gall ymestyn i hyd cyfan y tŷ, neu'r rhan fwyaf ohono, fel bo'n addas.

Siâp T
Yn debyg iawn i'r ystafell haul siâp P, mae'r siâp T yn fawr iawn ac yn gallu cynnig y lle mwyaf. Mae ganddo ddwy ardal, un i bob ochr o estyniad canolog. Gydag ymddangosiad cymesurol, gellir rhoi argraff o gyntedd trwy osod drysau yn y canol.

Talcen
Anglian Regency conservatoryBoed yn Fictoraidd neu'n Edwardaidd/ Sioraidd, mae ystafell haul Dalcen yn ddymunol a steilus, ac yn aml addurnir y talcen gydag arwedd heuladdurn clasurol. Gellir gwella hyn ymhellach trwy ddefnyddio gwydr addurnol.

Mewnlenwad Cornel
Fel mae'r enw'n awgrymu, mae ystafell haul Mewnlenwad Cornel yn ffitio'n dwt i'r lle rhwng dwy wal. Fe all fod yn eithaf cost-effeithiol, gan nad oes angen adeiladu ond dwy wal allanol yn aml iawn.

Cafn Bocs
Pa arddull bynnag a ddewiswch, mae Cafn Bocs yn golygu y bydd yr ystafell haul yn cael ei chlymu i wal y tŷ presennol, a bydd yn draenio to'r tŷ a tho'r ystafell haul yr un pryd.

To Cefngrwm
Pa arddull bynnag a ddewiswch, mae To Cefngrwm yn golygu fod to'r ystafell haul yn cyrraedd y brig ac wedyn yn disgyn yn ôl tuag at wal y tŷ.

Os ydych am wybod mwy am ein cynnyrch, cysylltwch â ni naill ai trwy e/bost neu drwy ffonio 0845 600 90 80

Ystafelloedd Haul
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
© Nolan uPVC 2007