| |
Cynnyrch : Ystafelloedd haul : Adeiladwaith y To
Mae arbenigedd adeiladu a gosod to'r ystafell haul yn elfen hanfodol o'r prosiect. Yn ogystal ag edrych yn dda, rhaid i'r to wrthsefyll eithafoedd tywydd Prydain, blwyddyn ar ôl blwyddyn.
Mae Nolan uPVC yn defnyddio fframiau alwminiwm sglein uchel gyda haen powdwr polyester, yn hytrach na'r fframiau uPVC safonol a ddefnyddir yn aml gan gwmnïoedd eraill. Mae cadernid strwythurol ein system wedi profi y gall gwrdd â gofynion diweddaraf a mwyaf tynn Safonau Prydeinig. Mae ymhlith yr ychydig systemau yn y DU i ennill ardystiad Bwrdd Mwynderau Prydeinig (BBA), yn dilyn dadansoddi cryfder y cynnyrch a'i gallu i wrthsefyll y tywydd, gan gynnwys efelychu'r gwynt a llwyth eira yn ogystal â phrofion ar effeithiau'r haul ar wydnwch y cynnyrch.
Mae ein system to yn gyfuniad o efelychu'n gywir ymddangosiad yr oes berthnasol a sicrhau'r perfformiad gorau yn y tymor hir. Mae'r tabl cymharu isod yn dangos paham.
| Fframiau Alwminiwm gyda Haen Powdwr Nolan uPVC |
Fframiau uPVC safonol |
Ymddangosiad Dymunol
Mae Haen Powdwr polyester 60 micron cynhaliaeth isel - a ddefnyddir ar y rhan fwyaf o siopau a swyddfeydd modern - yn gwrthsefyll budreddi'n dda iawn.
Hawdd i'w glanhau gyda pheipen ddŵr - yn ôl i'r sglein gwreiddiol.
Un lliw cyson i'r llygad ar y to allanol. |
Ymddangosiad Dymunol
Mae gorffeniad plastig yn fwy tueddol o fynd yn frwnt.
Oherwydd yr anhawster o'i gyrraedd, mae'n anos adfer gorffeniad boddhaol ar do PVC-U.
Nid yw'n anghyffredin i sylwi ar arlliwiau gwahanol ar draws y to. |
Cryfder
Mae uPVC Nolan yn cyfuno cryfder alwminiwm a haen polyester cryf, sglein uchel, wedi'i glymu i'r arwyneb allanol.
Mae gleinwaith alwminiwm yn caniatáu rhoi gwasgedd sylweddol ar y paneli gwydr i sicrhau na fyddant yn symud ar ôl cael eu gosod.
Mae trawst bargod alwminiwm bocs yn galluogi Nolan uPVC i adeiladu toeau mwy na'r rhan fwyaf o gwmnïoedd eraill, heb fod angen barrau clymu. |
Cryfder
Wedi'u capio gyda phlastig fel arfer.
Yn dibynnu ar gapiau plastig wedi'u bwrw ar y top ar gyfer gwasgedd.
Heb drawst bocs, mae angen barrau clymu (sy'n amharu ar yr ymddangosiad) ar ystafelloedd haul llawer llai. |
Gwydnwch
Mae ehangiad thermol isel alwminiwm yn golygu sefydlogrwydd rhagorol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol lle mae'r gorffeniad allanol yn dywyll.
Defnyddir castinau metel trachywir sglein uchel, yn seiliedig ar ddyluniad Fictoraidd cywir gwreiddiol, ar gyfer y trum tŷ addurnol a'r terfyniad. |
Gwydnwch
Mae toeau plastig yn fwy agored i symudiad thermol, sy'n gofyn mwy o'r strwythur yn y tymor hir.
Mae'r rhan fwyaf o doeau plastig yn defnyddio ategolion plastig wedi'u mowldio. |
Os ydych am wybod mwy am ein cynnyrch, cysylltwch â ni naill ai trwy e/bost neu drwy ffonio 0845 600 90 80 |