| |
Cynnyrch : Ystafelloedd haul : Gwydr To
Mae angen gwydr addas er mwyn sicrhau awyrgylch byw cyffyrddus trwy gydol y flwyddyn, ac er mwyn cadw gwres i mewn ac arbed egni. Er y bydd ein Hymgynghorwyr Dylunio'n hapus trafod y gwahanol opsiynau, y tri phrif fath o do yr ydym yn eu cynnig yw gwydr, polycarbonad, a chlai.
Mae gwydr yn dal yn ddewis poblogaidd gan y gall gydweddu â'r waliau a gwella'r ynysiad sŵn. Mae holl doeau gwydr Nolan uPVC yn wydr gwydn dwbl mewn unedau wedi'u selio sy'n eu gwneud yn arbennig o wres-effeithlon. Ar y llaw arall, nid ydych am or-gynhesu'r ystafell, felly mae gwydr gwrth-lachar sy'n adlewyrchu gwres ar gael mewn ystod o arlliwiau. Ac na, nid yw'n effeithio ar faint y golau sy'n dod i mewn.
Mae ein toeau clai yn edrych yn wych, yn arbennig wrth ochr tai hŷn, ac yn edrych fel estyniad neu ystafell ardd. Galwch heibio i'n stiwdio yng Nghaerdydd i weld ystafell haul to clai wedi'i hadeiladu'n llawn.
Mae to polycarbonad yn boblogaidd iawn, gan ei fod yn llai drud ac yn gryfach, er yn ysgafnach. Mae'n cynnig ynysiad rhagorol, a gall reoli lefel y golau er mwyn atal llacharedd a rhwystro'r gwres rhag cynyddu'n ormodol o fewn yr ystafell haul. Mae ar gael mewn sawl trwch a lliw, gan gynnwys clir, opal, efydd, opal efydd, a opal 'heatguard'. Dyma grynodeb o nodweddion y gwahanol fathau.
| Clir |
| > |
Yn cynnig y golau solar gorau posib |
 |
| > |
Yn caniatáu i chi wneud y gorau o'r haul trwy gydol y flwyddyn |
| > |
Yn berffaith i'r rhai sy'n dwlu ar yr haul, er efallai y bydd angen bleindiau arnoch yn ystod yr haf |
| Opal |
| > |
Bron yn ddi-draidd |
 |
| > |
Yn rhoi preifatrwydd, yn arbennig mewn ystafell y mae eraill yn gallu edrych drosti |
| > |
Mae'r golau yn ddi-lacharedd, meddal, a thryledol. O'r tu mewn, mae'r to'n edrych yn wyn |
| Efydd |
| > |
Yn cydweddu'n dawel gyda gorffeniadau to eraill, h.y. pvc ymddangosiad pren, neu bren |
 |
| > |
Yn cyfyngu ar y golau a'r llacharedd yn yr ystafell haul |
| > |
Yn cadw teimlad agored |
| Opal Efydd |
| > |
Yn cyfuno ymddangosiad efydd ar y tu allan gydag ymddangosiad opal ar y tu mewn |
 |
| > |
Mae'r gorffeniad opal allanol yn rhoi preifatrwydd a golau meddal |
| > |
Yn cydweddu'n dawel gyda gorffeniadau to eraill, h.y. pvc ymddangosiad pren, neu bren |
| > |
Opal Efydd yw'r dewis gorau o'r ddau safbwynt |
| Opal 'Heatguard' |
| > |
Yn adlewyrchu hyd at 50% o'r gwres |
 |
| > |
Yn helpu atal yr ystafell haul rhag gorgynhesu yn yr haf |
| > |
Yn cyfuno gorffeniad allanol arian-llwyd gyda'r gorffeniad opal mewnol poblogaidd |
| > |
Dylai osgoi'r angen am fleindiau |
Os ydych am wybod mwy am ein cynnyrch, cysylltwch â ni naill ai trwy e/bost neu drwy ffonio 0845 600 90 80 |