layout layout layout layout layout
 

Cynnyrch : Ystafelloedd haul : Adeiladwaith Ystafelloedd haul
Mae'r lluniad anodedig hwn yn rhoi canllaw sydyn i'r strwythur a'r cydrannau a ddefnyddir wrth adeiladu ystafell haul Nolan uPVC.

1. Adeiladwaith y To
Mae adeiladwaith alwminiwm trwyddi draw gyda dyluniad cywir o'r oes briodol yn rhoi cryfder rhagorol ac effeithlonrwydd thermol, gyda gorffeniad mewnol PVC-U. Mae gorffeniad haen powdwr allanol ar gael mewn gwyn, brown, neu liw derwen golau. Mae arwisg PVC-U fewnol gyfatebol ar gael mewn gwyn, mahogani, derwen golau, rhosbren neu orffeniad pren.

2. Paneli Gwydr y To
Polycarbonad neu wydr - ewch i dudalen Gwydr To am fwy o wybodaeth. Mae Nolan uPVC hefyd yn cynnig yr opsiwn o do teils clai, sy'n gweithio'n arbennig o dda gyda thai o oes benodol, ac yn creu'r teimlad o estyniad yn hytrach nag ystafell haul.

3. Fframiau Ochr gyda Gwydr
Unedau gwydr dwbl wedi'u selio ar gyfer effeithlonrwydd thermol, gyda naill ai ffenestri sefydlog neu ffenestri sy'n agor. Mae gwydr addurnol ar gael ar gyfer ffenestri sy'n agor a ffenestri linter. Gweler Lliwiau Ffrâm a Dewisiadau Gwydr yn ein hadran Cynnyrch : Ffenestri. Am gael cymaint o olau ag sy'n bosib, y mae hefyd opsiwn o gal fframiau ochr hyd llawn (o'r llawr i'r to).

4. Opsiwn Wal Isel
Adeiladwaith wal ddwbl, gyda gorffeniad bric ar y tu allan, ac ynysiad ceudod. Gwneir yr holl fricio a seiliau gan dîm mewnol Nolan uPVC, sydd â'r holl sgiliau priodol ar gyfer y gwaith hwn.

5. Silffoedd Ffenestr Allanol
Ar y wal allanol er mwyn dal fframiau ochr gyda gwydr.

6. Cwrs Gwrth Leithder

7. Llenwi Ffos y Sylfeini
Ar gyfer sylfeini'r wal.

8. Ynysiad Llawr
Haen 200mm polystyren

9. Pilen Wrth Leithder

10. Seiliau Concrid
Wedi'u palu i ddyfnder o leiaf 450 mm a lled o 600 mm. Dyfnder sylfeini o leiaf 150 mm.

11. Blociau Concrid
O dan y tir. Yn ddewisol uwchben y tir ar gyfer gorffeniad rendro.

12. Seiliau Caled Cywasgedig
Dyfnder o leiaf 100 mm gyda haen tywod.

13. Llawr Concrid
Lleiafswm o 100 mm, yn addas ar gyfer teils neu garped.

14. Silffoedd Ffenestr Mewnol
Pren traddodiadol, teils, neu ddefnyddiau modern amgen i bontio'r ceudod a rhoi gorffeniad glân ar ben y wal fewnol.

15. Ffenestri Ffrengig, Drysau Patio, neu Ddrws Sengl
Gyda dewisiadau diogelwch uchel. Unedau gwydr dwbl wedi'u selio, gyda gwydr diogelwch. Ewch i dudalen Cynnyrch : Drysau i weld dewisiadau lliw'r ffrâm ac arddull.

16. Cafnau
System clipio gyda pheipen i'r draen. Ar gael mewn gwyn neu frown.

17. Awyriad
Gofynnwch i'n Hymgynghorwyr Dylunio am y gwahanol ddewisiadau awyriad.

18. Trum Tŷ a Therfyniad
Castin alwminiwm gyda haen powdwr polyester ar gyfer dyluniadau cywir Fictoraidd neu Edwardaidd. Ar gael mewn gwyn neu frown.

Os ydych am wybod mwy am ein cynnyrch, cysylltwch â ni naill ai trwy e/bost neu drwy ffonio 0845 600 90 80

Ystafelloedd Haul
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
© Nolan uPVC 2007