Cynnyrch : Ystafelloedd haul : Cam wrth Gam
Wrth wella'r cartref, mae cyfathrebu da yn hanfodol. Ond i chi ddweud wrth bobl beth y byddwch yn ei wneud, pryd y byddwch yn ei wneud, a beth fydd y gost, a bydd pobl yn hapus.
Cam 1 - Mae gennych ddewis o dderbyn gwybodaeth trwy'r post a/neu drefnu amser a dyddiad cyfleus i ymgynghorydd dylunio Nolan uPVC alw heibio. Cewch lythyr yn cadarnhau'r trefniadau, gydag unrhyw wybodaeth cynnyrch perthnasol.
Cam 2 - Ar ôl cyrraedd eich tŷ, bydd ein hymgynghorydd dylunio yn trafod eich anghenion, ateb unrhyw gwestiynau, ac awgrymu'r cynnyrch mwyaf perthnasol. Bydd yn gwneud y mesuriadau yn fras ac anfon dyfynbris atoch trwy'r post.
Cam 3 - Os ydych yn fodlon ar y dyfynbris, cewch gontract trwy'r post i chi arwyddo ac anfon i'n pencadlys. O fewn saith diwrnod, bydd syrfëwr yn galw heibio i wneud arolwg manwl, a bydd e'n gallu ateb unrhyw gwestiynau eraill fydd gennych.
Cam 4 - Byddwch yn derbyn llythyr gyda dyddiad gosod arfaethedig, a gallwn newid hyn os na fydd yn gyfleus i chi. Fel arfer, bydd y gwaith gosod o fewn chwe wythnos, sy'n rhoi digon o amser i ni ddylunio a chynhyrchu'r cynnyrch.
Cam 5 - Mae'r cyfan o'n timoedd gosod yn grefftwyr gyda llawer o flynyddoedd o brofiad o weithio mewn cartrefi pobl. Cyn gadael ein pencadlys, maen nhw'n archwilio'r cynnyrch i gyd i sicrhau fod y gwaith gosod yn mynd yn esmwyth. Unwaith eu bod yn eich cartref, byddant yn ceisio lleihau'r anghyfleustra a sicrhau fod celfi yn ardal y gwaith gosod yn cael eu diogelu. Bydd unrhyw beth a dynnir o'ch tŷ, os nad oes ei angen bellach, yn cael ei gludo i'n hardal ail-gylchu. Trwy gydol y gwaith gosod, bydd goruchwyliwr yn archwilio'r gwaith i sicrhau ei fod yn unol â safonau heriol Nolan uPVC.
Cam 6 - Ar ddiwedd y gwaith, cyflwynir anfoneb yn ogystal â holiadur i gasglu adborth y cwsmer. Gellir talu (arian parod neu siec) i un o uwch osodwyr Nolan uPVC cyn iddo adael eich cartref, neu fe ellir talu mewn un o'n stiwdios dylunio. Os ydych am dalu trwy gerdyn debyd neu gredyd, gellwch wneud dros y ffôn neu drwy alw i mewn i'n swyddfeydd.
D.S. - Gan fod gosod ystafell haul yn fwy cymhleth, gan alw ar fwy o sgiliau gwahanol yn ystod y gwaith, gellwch ddisgwyl derbyn amlinelliad o amserlen y gwaith a fydd fel arfer yn para rhwng chwech ac wyth wythnos. O ddyddiad cychwyn y gwaith, bydd gennych chi enw uwch oruchwyliwr, a byddwch yn gallu cysylltu ag e ar ei ffôn symudol ar unrhyw adeg os oes gennych unrhyw gwestiwn neu bryder.
Os ydych am wybod mwy am ein cynnyrch, cysylltwch â ni naill ai trwy e/bost neu drwy ffonio 0845 600 90 80 |