Cynnyrch : Ystafelloedd haul : Cyngor Dylunio
Gyda chymaint o amrywiaethau a chyfuniadau arddull ar gael, bydd ein Hymgynghorydd Dylunio yn gwrando arnoch chi ac wedyn defnyddio ei wybodaeth a'i brofiad i'ch cynghori ar y dyluniad sydd orau i chi ac i'ch tŷ. Bydd yn cynhyrchu delwedd 3-D o'ch hoff ddyluniad i'ch helpu i ddeall fel beth y bydd yn ymddangos.
I arbed amser i chi, ac i'ch helpu i ddewis yr ystafell haul berffaith, ystyriwch y pwyntiau canlynol.....
Wrth ystyried y deunyddiau a'r arddull, gwnewch yn siŵr eu bod yn cydweddu gydag oes eich tŷ. Er enghraifft, byddai ystafell haul gyda mowldin cornis yn addas ar gyfer tŷ Edwardaidd. Ac mewn tŷ modern, ystafell haul gyda tho ar oledd, gyda gwydr clir a heb lawer o ategolion sydd orau.
Mae'r dyluniad Fictoraidd yn arbennig o boblogaidd, gyda'i dalcen a therfyn crom amlochrog. Neu fe allwch ddewis a chymysgu gwahanol arddulliau er mwyn creu dyluniad sy'n unigryw i chi. Beth bynnag a ddewiswch, mae pob arddull yn cynnig yr opsiwn o waliau gwydr hyd llawn, waliau isel gyda gwydr uwchben, neu gyfuniad. Ar gyfer waliau, gwnewch yn siŵr fod y briciau yn cydweddu â'r tŷ.
Pa arddull bynnag a ddewiswch, dylai fod yn gymesur â'r prif adeilad. Cewch ddatblygu syniadau o beth yr ydych yn ei hoffi, a beth fydd yn addas i'ch tŷ, trwy bori trwy gylchgronau cartrefi neu alw heibio i un o'n stiwdios dylunio. Mae ein stiwdio yng Nghaerdydd yn dangos yr ystod fwyaf o ystafelloedd wydr uPVC yng Nghymru. Yn ein profiad ni, mae'n haws i gwsmeriaid ystyried arddull penodol ar gyfer ystafell haul, yng nghyd-destun eu hanghenion eu hunain, wrth sefyll mewn un.
Meddyliwch am bwrpas eich ystafell haul, gan fod hyn yn gallu effeithio ar y maint a'r cynllun. Yn aml, 'dyw pobl ddim yn sylweddoli i ba radd y caiff yr ystafell newydd ei defnyddio, ac wedyn maent yn difaru nad oedden nhw wedi dewis un mwy, gan ei bod wedi dod yn hoff ystafell y tŷ.
Os ydych yn mynd i'w defnyddio gan fwyaf ym misoedd yr haf, ni fydd angen gwres gosod, a bydd gwresogydd symudol yn ddigonol. Ystyriwch wres dan lawr yn arbennig os ydych am gael llawr carreg neu deils seramig. Mae hyn hefyd yn ffordd o arbed lle ar y waliau; yn arbennig os byddwch yn dewis paneli gwydr o'r to i'r llawr.
Mae'r cyfan o'n hystafelloedd haul yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu, gan gynnwys Dogfen L, sy'n ymwneud ag effeithlonrwydd egni. O ran Caniatâd Cynllunio, weithiau bydd ei angen ac weithiau ni fydd. Gellwch naill ai ddelio â'r agwedd hon eich hunain, neu ddewis cwmni fel Nolan uPVC a fydd yn gofalu am y manylion hyn, gan gynnwys trefnu pensaer i baratoi cynlluniau a chyflwyno'ch cais i'r awdurdod lleol. Fel arfer, yng Nghymru, ni fydd angen i chi gael caniatâd cynllunio oni bai fod yr ystafell haul arfaethedig yn fwy na 30 medr sgwâr.
Mae'n bwysig iawn i ystyried i ba gyfeiriad y bydd eich ystafell haul yn wynebu, gan fod hyn yn effeithio ar faint o olau gaiff yr ystafell haul wrth i'r tymhorau newid. Bydd ystafell haul sy'n wynebu'r de yn cael yr haul trwy gydol y flwyddyn, a gall fynd yn boeth iawn, felly bydd angen awyriad da. Os bydd yn wynebu i'r gogledd, bydd angen gwres yn y gaeaf. Mae ystafell haul sy'n wynebu i'r dwyrain yn ddelfrydol ar gyfer brecwast, oherwydd haul cynnar y bore, ac mae un sy'n wynebu'r gorllewin yn wych ar gyfer prynhawniau a nosweithiau'r haf. Dylech ystyried hefyd gyda pha ystafell arall mae'n cysylltu. Er bod ystafell haul yn lle byw newydd, golau, bydd yr ystafell gysylltiedig yn colli rhywfaint o'i golau naturiol.
Fe all ychwanegu ystafell haul i'ch tŷ ychwanegu gwerth iddo, ond mae maint y gwahaniaeth yn dibynnu ar fath y tŷ a'i leoliad. Mae uchafswm pris i dŷ canol teras, a oes ganddo ystafell haul ai peidio. Fodd bynnag, os bydd ystafell haul yn llenwi bwlch blaenorol - er enghraifft, ychwanegu ystafell fwyta lle nad oedd yr un o'r blaen, wedyn mae'n debyg iawn y bydd yn ychwanegu gwerth. Beth bynnag ei defnydd, gorau po fwyaf y gorffeniad a'r adeiladu os ydych am apelio at brynwyr yn y dyfodol.
Os ydych am wybod mwy am ein cynnyrch, cysylltwch â ni naill ai trwy e/bost neu drwy ffonio 0845 600 90 80 |