Cynnyrch : Ystafelloedd haul : Cymariaethau Pris
Mae ychwanegu ystafell haul yn benderfyniad pwysig, felly mae'n synhwyrol i chi edrych o gwmpas. Er y bydd bob amser ddewis rhatach, byddwch yn barod i dderbyn ansawdd is yn nhermau'r hyn sydd wedi'u cynnwys a'r lefel gwasanaeth cyn, yn ystod, ac ar ôl y gwaith gosod. Mae'n bwysig delio gyda chwmni y gellwch ymddiried ynddo, yn arbennig wrth ystyried y bydd y gweithwyr yn treulio o leiaf pythefnos yn eich tŷ unwaith fod y gwaith yn cychwyn.
Mae gan y cyfan o ystafelloedd haul Nolan uPVC nodweddion diogelwch blaengar yn safonol; gwydr gwydn ar ddrysau, fframiau wedi'u cyfnerthu'n llawn, seliau diddos, a gwarant 10 mlynedd di'amod ar bopeth y byddwn yn ei wneud neu ei osod. Cyflenwir y proffiliau (h.y. y fframiau) gan Profile 22, a'r system to blaengar gan Quantal. Mae'r ddau yn gwmnïoedd cenedlaethol, blaenllaw gyda chasgliad o achrediadau swyddogol ar gyfer ansawdd.
Mae gennym hefyd yr holl sgiliau priodol yn ein tîmoedd - bricwyr, seiri coed, teilswyr - felly fe allwn ni reoli'r prosiect cyfan a chynnal ein safonau uchel o ran ansawdd.
Holwch a all cwmni arall gyflawni hyn i gyd o fewn ei bris, a gwnewch yn siŵr fod ei bris yn cynnwys y cyfan. Sicrhewch nad oes costau ychwanegol cudd, megis codi'n ychwanegol os bydd plastrwr yn gorfod dod yn ôl am ddiwrnod arall er enghraifft.
Os ydych am wybod mwy am ein cynnyrch, cysylltwch â ni naill ai trwy e/bost neu drwy ffonio 0845 600 90 80 |