layout layout layout layout layout
 

Cynnyrch : Drysau : Dewisiadau Gwydr
Wrth ddewis y gwydr yn ofalus, byddwch yn ychwanegu at gymeriad eich tŷ. Os ydych chi eisiau gwydr plaen, mae gwydr egni-effeithlon Pilkington K yn safonol ar y cyfan o'n drysau.

Os ydych am breifatrwydd, gallwn gynnig ystod o wydrau barugog, gyda phum gradd o aneglurder. Ac os mai gwydr addurnol sydd angen arnoch er mwyn addasu'ch ffenestri i dŷ penodol neu i arddull personol, cewch ddewis o ystod o ddyluniadau safonol, neu fe allwn wireddu'ch dyluniadau chi.

Mae drysau â ffenestri plwm, boed yn wydr plaen, gwydr traddodiadol, neu wydr addurnol, yn boblogaidd iawn ar gyfer ymddangosiad oes benodol. Arddull poblogaidd arall ydy gwydr peflog lle mae ochrau'r gwydr wedi'u befelu er mwyn plygu'r golau. Ac mae ysgythru'r gwydr yn cynnig posibiliadau di-ben-draw yn ogystal â gwell preifatrwydd.

Os ydych am wybod mwy am ein cynnyrch, cysylltwch â ni naill ai trwy e/bost neu drwy ffonio 0845 600 90 80

Is Fwydlen Drysau
 
 
 
 
 
 
 
 
© Nolan uPVC 2007