| |
Cynnyrch : Drysau : Cyflwyniad
Efallai fod hyn yn amlwg, ond mae drysau'n bwysig iawn i'ch tŷ, gan eu bod yn cadw'r awyr oer allan, a'r awyr cynnes i mewn, yn ogystal â chadw'r tŷ'n ddiogel.
Mae'ch drws yn dweud rhywbeth amdanoch chi, a gyda chymaint o amrywiaeth arddull, lliw, ac ategolion megis dolenni, bocs llythyrau, rhif a chnociwr, gallwn addasu pob drws fel ei fod at eich dant ac yn cydweddu â'ch tŷ i'r dim.
Mae gan Nolan uPVC gannoedd o fathau o ddrysau, gan gynnwys drysau â phaneli lliw solet, drysau cyfansawdd, drysau gwydr lliw, drysau llithro triphlyg ar gyfer patios, a ffenestri Ffrengig. Cynhyrchir pob drws â llaw yn ein ffatri yng Nghaerfyrddin, gan ddefnyddio uPVC o'r ansawdd gorau a fframiau wedi'u cyfnerthu â dur. Defnyddir seliau perfformiad uchel a chloeon diogelwch rhagorol.
Os ydych am wybod mwy am ein cynnyrch, cysylltwch â ni naill ai trwy e/bost neu drwy ffonio 0845 600 90 80 |