layout layout layout layout layout
 

Cynnyrch : Drysau : Arddulliau
Mae gennym ddrws addas i bob tŷ. Dewiswch baneli lliw solet neu ymddangosiad pren, wedi'i wydro, wedi'i wydro'n rhannol, neu baneli gwydr addurnol. Gwneir y cyfan o uPVC (neu arwisg uPVC) cynhaliaeth isel o'r ansawdd gorau na fydd yn pydru nac yn camdroi fel pren gyda throad y tymhorau.

Panel Solet
Mae drws solet gyda phaneli llawn yn ddelfrydol ar gyfer mynedfa sy'n agor yn syth ar bafin neu gyd-gyntedd, neu lle bo'r angen am y diogelwch gorau.

Cyfansawdd
Drws cyfansawdd yw'r datblygiad diweddaraf, ac mae'n anodd gweld y gwahaniaeth rhyngddo a drws pren caled confensiynol. Mae'n ddeniadol a gwydn, ac mae'n gwrthsefyll crafu a'r tywydd. Mae ei nodweddion yn cynnwys ffrâm bren haenog wedi'i lamineiddio, calon 'Styrofoam', a chroen uPVC ar y tu mewn a'r tu allan.

Wedi'i wydro'n rhannol
Mae drws sydd wedi'i hanner-wydro, neu ei wydro'n rhannol, yn gadael mwy o olau i mewn i'r cyntedd, ac yn rhoi digon o breifatrwydd i'w ddefnyddio fel drws blaen. Ar gyfer drws cefn neu ddrws ochr, sy'n agor ar ardal fwy preifat, dewiswch arddull mwy agored ei ymddangosiad, gyda llai o baneli, a llawer o wydr.

Paneli Gwydr
Gellir addasu paneli gwydr mewn drws i gydweddu ag arddull pensaernïol y tŷ a'i ffenestri. Gyda chymaint o ddewisiadau gwydr a phaneli i ddewis rhyngddynt, gall eich drws ymddangos yn drawiadol, a bydd yn unigryw i chi.

Ffenestri Ffrengig
Pan fydd y tywydd yn braf, mae gallu agor ffenestri Ffrengig i'r ardd neu i'r patio yn braf iawn hefyd. Boed yn wydr plaen neu'n arddull Sioraidd, fe'u cynhyrchir gyda phroffiliau (fframiau) 60 mm neu 70 mm, gwydr gwydn 'E' isel, seliau diddos, a gleinwaith mewnol er mwyn gwell diogelwch.

Drysau Llithro ar gyfer y Patio
Mae drysau llithro sengl, dwbl, triphlyg, neu hyd yn oed pedwarplyg i'r patio yn gadael mwy o olau i mewn i'r tŷ, a gallant wneud i ystafell deimlo'n fwy. Maent hefyd yn integreiddio'r tŷ a'r ardd. Mae ein paneli paralel yn llithro'n rhwydd ar hyd traciau dur gwrthstaen. Fe'u cynhyrchir gyda phroffiliau (fframiau) 60 mm neu 70 mm gyda gwydr gwydn 'E' isel, cloeon aml, a seliau diddos. Mae ganddynt hefyd system arbennig sy'n sicrhau nad oes modd codi'r drysau o'r tu allan.

Os ydych am wybod mwy am ein cynnyrch, cysylltwch â ni naill ai trwy e/bost neu drwy ffonio 0845 600 90 80

Is Fwydlen Drysau
 
 
 
 
 
 
 
 
© Nolan uPVC 2007