Ynni Effeithlon
Ein nod yma yn Nolan uPVC yw i arbed arian tra'n helpu'r amgylchedd.
Dim ond edrych ar y ffeithiau sy'n rhaid gwneud i werthfawrogi arwyddocâd cael ffenestri a drysau sy'n ynni effeithlon. Gellir colli rhwng 5 a 10 y cant o wres trwy ffenestri gwydr sengl nad ydynt wedi'u gosod yn iawn a 15 y cant arall trwy ddrysau sy'n is na'r safon. Gall fod mor uchel â 50 y cant mewn cartrefi sy'n hŷn.
Mae'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn gwresogi, goleuo ac oeri ein hadeiladau yn cyfateb i bron i hanner y gollyngiadau ym Mhrydain. Mae adeiladau sy'n ynni effeithlon (hynny yw rhai sydd â nodweddion megis gwydr dwbl sy'n help i gadw gwres i mewn) yn arbed tanwydd ffosil i'r cenedlaethau sydd i ddod a hefyd helpu i leihau'r llygredd sy'n niweidio'r haenen osôn. Pan yn ystyried arbed arian, mae ymchwil yn dangos bod ffenestr â gwydr sengl yn colli ynni ar raddfa o - 198 kwh/m2 y flwyddyn. Amcangyfrifir bod trydan yn costio tua 11c y kwh, a bod gan y cartref arferol wyth metr sgwâr o wydr; fe allai gwydr dwbl arbed tua £167 y flwyddyn.
Mae ein ffenestri, drysau ac ystafelloedd haul yn help i gadw'r biliau tanwydd i lawr a hefyd y gwynt a'r glaw allan. Mae gan ein cynnyrch nodweddion gwych o ran inswleiddio gwres ac mae pob sêl yn ffitio'n berffaith gyda gwydr Pilkington, neu wydr E isel - sef gwydr arbennig sydd â haenen anweladwy sy'n adlewyrchu gwres sy'n golygu ei bod yn fwy ynni effeithiol.
Mae'r holl gynnyrch yn cydymffurfio â Dogfen L (Rheoliadau Adeiladu) ac felly maent yn cynnig perfformiad thermol da gyda graddfa U isel o 1.8. Fel canllaw i chi, yr isaf yw'r raddfa U, y lleiaf o wres a gollir a'r lleiaf o ynni a wastreffir. Graddfa U gwydr clir sengl yw 5.4 tra bod uned gwydr dwbl cyffredin yn 2.6.
Er mwyn gwella'r effeithlonrwydd ynni ymhellach, mae gan ein cwsmeriaid y dewis o uwchraddio'r uned gwydr dwbl wrth gynyddu'r lled rhwng y gwydr dwbl i 20mm a/neu roi nwy Argon yn lle aer ynddo (sef nwy sefydlog sy'n perfformio'n well nag aer sych).
Ffoniwch ni ar , am ragor o gyngor a gwybodaeth. |