layout layout layout layout layout
 
Cwestiynau a Holir yn Aml
>
Beth mae ffenestri dwbl wir yn ei olygu?
>
Pam fod uPVC yn ddefnydd mor boblogaidd ar gyfer ffenestri, drysau ac ystafelloedd haul?
>
Beth yw proffil?
>
Sut mae ffenestri uPVC yn arbed ynni ac yn gostwng biliau gwresogi?
>
Sut mae ffenestri a drysau uPVC yn cynyddu gwerth tai?
>
Ym mha ffyrdd y mae ffenestri a drysau newydd uPVC yn gwella diogelwch tai?
>
A fydd ffenestri a drysau uPVC newydd yn gwella ansawdd yr aer?
>
Sut gall ffenestri a drysau uPVC newydd wneud tai yn dawelach?
>
Beth yw Gwydr Pelydredd Isel?
>
Beth yw FENSA?
>
Beth yw Document L?
>
Beth yw U-value?
>
Sut mae ffenestri dwbl uPVC yn helpu'r amgylchedd?
>
Sut y gall perfformiad thermal uned ddwbl gael ei wella?
>
A yw pob ffenestr wydr ddwbl yr un peth?
>
A yw pob cwmni sy'n gwerthu ffenestri dwbl yr un peth?

Beth mae ffenestri dwbl wir yn ei olygu?
System lle caiff aer ei ddal rhwng dau baen o wydr oddi fewn i ffrâm ffenestr er mwyn inswleiddio yn erbyn gwynt a swn. Er mwyn cyd-fynd â Rheoliadau Adeiladu, y gofod gorau posib yw 16 mm gan fod unrhyw beth mwy yn llai effeithiol yn erbyn swn. Mae pob ffenestr gan Nolan uPVC yn cyd-fynd â'r rheol drwy gael gofod safonol o 16mm.

Pam fod uPVC yn ddefnydd mor boblogaidd ar gyfer ffenestri, drysau ac ystafelloedd haul?
Mae'n gryf ac yn para'n hynod o dda ac felly gall wrthsefyll tywydd caled iawn. Does dim angen llawer o waith cynnal a chadw ar uPVC ac y maent yn hawdd i'w glanhau ac angen eu glanhau unwaith y flwyddyn â chlwtyn. Hefyd, mae uPVC yn rhatach na choed er, drwy dechnegau gorffeniad clyfar a adnabyddir fel ffoiliau gall edrych fel y peth go iawn.

Beth yw proffil?
Wrth ymchwilio i gwmnïau sy'n gwerthu ffenestri dwbl, mae'n siwr y dewch ar draws y gair "proffil". Cyfeiria hyn at y system uPVC y caiff y gwydr ei osod ynddo. Yma yn Nolan uPVC, rydym yn defnyddio Proffiliau 22 sydd o safon uchel, yn systemau aml siambrog â seiliau diogelu rhag y tywydd a gafodd eu gwobrwyo â achrediad BBA a nodau barcud BSI.

Sut mae ffenestri uPVC yn arbed ynni ac yn gostwng biliau gwresogi?
Gall rhwng 5 a 10 y cant o wres gael ei golli drwy ffenestri gwydr sengl sydd wedi'u ffitio'n anghywir a 15 % ychwanegol trwy ddrysau. Mewn tai hynach, gall hyn fod mor uchel â 50 y cant. Dengys ymchwil fod ffenestri gwydr sengl yn colli ynni ar radd o -198 kWh/m2 y flwyddyn. Wrth amcanu fod trydan yn costio tua 11c y kWh, a bod y tŷ cyffredin â 8 medr sgwâr o wydr, wedyn gallai ffenestri gwydr dwbl arbed £167 y flwyddyn.

Sut mae ffenestri a drysau uPVC yn cynyddu gwerth tai?
Gofynnwyd nifer o asiantaethau tai yng Nghymru. Cytunodd pob un bod ffenestri uPVC o safon, drwy gadw steil y tû yn ei gwneud hi'n haws i'w werthu. Heddiw, mae ffenestri gwydr dwbl yn elfen allweddol y mae prynwyr arfaethedig yn edrych amdano ac yn fantais gall ennyn gwerth uwchlaw'r hyn y mae'n costio.

Ym mha ffyrdd y mae ffenestri a drysau newydd uPVC yn gwella diogelwch tai?
Mae treian o'r achosion o ladrata sy'n digwydd yn digwydd drwy ffenestr gefn. Digwydda dau dreian drwy ddrws. Am gartref diogel, mae'n bwysig gosod ffenestri a drysau sydd â manyleb dylunio sydd wedi pasio cynlluniau a gefnogir gan yr heddlu (er enghraifft 'Secured by Design') a phrofion cynnwys cartref gan gwmnïau yswiriant.

Mae ffenestri uPVC Nolan yn rhai achrededig gyda thystysgrif BBA am Wrthsafiad Gwell. Cloeon Safeware sydd ar ein drysau a'r system a gymeradwyir gan Secured by Design ac sydd â system lle mae saith man cloi a brofir gan Athrofa Safonau Prydeinig, ac sydd wedi derbyn gwobr PAS023 a nod barcud 024. Ym Mhrydain, llond llaw o gwmnïau yn unig sydd wedi bod yn ddigon da i haeddu'r nodau barcud yma.

Yn ogystal â chloeon uchel eu perfformiad, fframiau dur cyfnerthedig wedi eu galfaneiddio sy'n help i wrthsefyll lladron a sicrhau fod pob clo yn dynn yn ei le i sicrhau'r cryfder eithaf.

Rydym ni yn Nolan uPVC mor ffyddiog bod cloeon ein drysau yn mynd i wrthsefyll lladrad ein bod yn fodlon rhoi hyd at £500 petaech chi'n dioddef lladrad oherwydd i'n cloeon ni fethu.

A fydd ffenestri a drysau uPVC newydd yn gwella ansawdd yr aer?
Yn y diwedd, bydd ffenestri uPVC yn gwella ansawdd yr aer oherwydd bod y ffenestri yn rhwydd i'w glanhau ac yn gwrthsefyll llygredd yn cynnwys llwch all achosi alergeddau.

Sut gall ffenestri a drysau uPVC newydd wneud tai yn dawelach?
Yn yr un ffordd ag y mae ffenestri a drysau dwbl yn gwneud tai yn gynhesach ac yn gallu gwrthsefyll gwynt, maent yn ins wleiddio yn erbyn swn. Bydd unedau sydd wedi'u selio'n dda yn gostwng y swn sy'n dod o'r tu allan yn sylweddol gan wneud eich cartref hyd yn oed yn fwy cyfforddus.

Beth yw Gwydr Pelydredd Isel?
Mae'r gofynion hyn gan y Rheoliadau Adeiladu presennol yn sefyll am 'gwydr pelydredd isel.' Haen arbennig anweladwy ydyw sydd â nodweddion adlewyrchol ac sy'n gwneud y gwydr yn fwy ynni effeithiol. Mae'n gweithio drwy adlewyrchu tonfeddi gwres hirach oddi wrth reiddiaduron ac arwynebau ystafelloedd yn ôl i'r adeilad. Yn y cyfamser, mae'n gadael ynni tonfedd gwres byr o'r haul sydd wedyn yn cael ei adlewyrchu gan yr haen, yn ôl i'r ystafell. Mae gwydr Pilkington K yn cael ei gategoreiddio fel Pelydredd Isel ac yn cael ei osod yn safonol ar holl gynnyrch Nolan uPVC.

Beth yw FENSA?
Mae FENSA yn fyr am Fenestration Self-Assessment Scheme. Sefydlwyd y cynllun gan y Ffederasiwn Gwydr a Gwydriad (y GGF) ar gais Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog fel ymateb i'r Rheoliadau Adeiladu cyfredol ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'n bodoli er mwyn sicrhau bod perchnogion tai yn derbyn tystysgrif o gydymffurfiad gan osodwyr ffenestri ar safon perfformiad thermol y ffenestri a drysau newydd. Mae Nolan Upvc wedi ei gymeradwyo gan FENSA.

Beth yw Document L?
Gofynion Cydymffurfio Rheoliadau Adeiladu ar gyfer Cymru a Lloegr yw Document L. Mae'n gosod y safonau o effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau ac mae'n berthnasol i ffenestri newydd, rhai sydd wedi eu hailosod a drysau gwydr. Mae'n nodi fod defnyddio gwydr pelydredd isel yn safonol mewn unedau gwydr dwbl fel bod ganddynt U-value isel a'u bod yn effeithlon wrth gadw gwres i mewn.

Beth yw U-value?
Mae U-value yn mesur y cyflymder y collir gwres drwy ddeunydd megis uned gwydr dwbl. Wrth uned, golygir y gwydr a'r ffrâm gyda'i gilydd. Yr isaf yw'r U-value, yr isaf yw'r gwres a gollir a'r isaf yw'r cyfanswm o ynni sy'n cael ei wastraffu. Mesurir U-values mewn Watiau y medr sgwâr wrth bob gradd o wahaniaeth tymheredd (W/m²k yn fyr).

Fel brasamcan, U-value gwydr clir sengl yw 5.4. Gyda gwydr dwbl cyffredin, mae'n gwella i 2.6. Gyda gwydr pelydredd isel (sy'n safonol gyda Nolan uPVC) cwtogir yr U-value i 1.8, ac os defnyddir nwy Argon i lenwi'r bwlch o aer (rhywbeth ychwanegol y mae Nolan uPVC yn gallu ei gynnig), mae'r U-value yn lleihau i 1.6.

Sut mae gwydr dwbl uPVC yn helpu'r amgylchedd?
Mae'r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio i wresogi, goleuo ac oeri ein hadeiladau yn cynrychioli bron hanner y deuocsid carbon sy'n cael ei ryddhau ym Mhrydain.

Mae adeiladau sy'n defnyddio ynni yn effeithiol (hynny yw, rhai sydd â nodweddion megis gwydr dwbl sy'n helpu i gadw gwres i mewn) yn arbed tanwydd ffosil i'r cenedlaethau i ddod ac i helpu i leihau'r llygredd sy'n niweidio haen yr osôn.

Sut y gall perfformiad thermol uned ffenestr ddwbl gael ei wella?
Mae holl gynnyrch safonol Nolan uPVC yn cydymffurfio gyda Document L (Rheoliadau Adeiladu) felly maent yn cynnig perfformiad thermol da gyda U-value o 1.8. Er mwyn gwella effeithiolrwydd ynni ymhellach, mae gan gwsmeriaid y dewis i uwchraddio manyleb uned wydr dwbl. Gellid gwneud hyn unai trwy gynyddu lled ceudod yr uned i 24mm a/neu newid yr aer oddi fewn iddo i nwy Argon, sy'n nwy anadweithiol (sef statig) felly mae ganddo well nodweddion thermol nag aer sych.

A yw pob ffenestr gwydr dwbl yr un peth?
Nac ydynt, mae amrywiaeth helaeth ar gael. Mae strwythur y proffil yn amrywio, trwch y gwydr, y gofod rhwng y paenau (16mm o leiaf) ac mae gan rai mathau o wydr y gallu i adlewyrchu gwres. Mae'r gleinwaith hefyd yn bwysig gan fod gleinio mewnol (wedi ei osod o'r tu fewn) yn dal yn gadarnach. Rhaid ystyried ansawdd y cloeon (mae system gloi 5 pwynt yn hanfodol ar ddrysau), ydy'r gwaith selio'n weladwy (y seliau gyda lein weld isel sy'n rhagori) ac a ydynt yn gallu gwrthsefyll y tywydd. Ac wrth gwrs, pa mor dda y mae'r holl bethau hyn wedi eu rhoi gyda'i gilydd (y gwneuthuriad).

Mae atgyfnerthiad dur yn bwysig os ydych yn awyddus i'ch gwydr dwbl bara yn ogystal â pherfformio. Mae llawer o gwmnïau wedi rhoi'r gorau i atgyfnerthu gyda dur yn ddiweddar gan ei fod bellach mor gostus i wneud hyn. Nid yw Nolan uPVC yn un o'r cwmnïau hyn gan eu bod yn defnyddio proffiliau wedi eu hatgyfnerthu sy'n gwneud y ffenestri yn fwy haearnaidd a chymwys i gadw eu siâp a'u llinellau beth bynnag fo'r tywydd.

Mae'n werth buddsoddi mewn gwydr dwbl o safon gwell gan fydd hyn yn cael goblygiadau uniongyrchol ar filiau ynni. Ymchwiliwch i'r hyn sydd ar gael ar y farchnad ac wrth gymharu prisiau, sicrhewch fod gan y cynnyrch yr un manyleb neu ni fydd pwrpas i chi wneud y gymhariaeth.

A yw pob cwmni ffenestri dwbl yr un peth?
Nac ydyn, ac yn anffodus mae gan y diwydiant enw drwg am gynnig bargeinion rhad nad ydynt yn cynnig gwerth am arian gwirioneddol ac mae rhai cwmnïau yn cyflogi staff ymwthgar sy'n cael comisiwn wrth werthu ar y ffôn. Am hynny, mae'n werth delio â chwmni nad ydych yn teimlo dan bwysau i brynu oddi wrthynt. Cwmni yr ydych yn gallu ymddiried ynddo.

Mae cwmnïau yn amrywio mewn safon pan ddaw'n amser i osod y ffenestri yn ogystal ag ansawdd y cynnyrch yn y lle cyntaf. Da o beth yw cael cynnyrch sydd â gwneuthuriad da ond os yw wedi cael ei osod a'i orffen yn wael, byddwch yn teimlo'n siomedig ac ni fydd perfformiad y gwydr dwbl yn dda. Dylai fframiau fod yn gwbl sgwâr ac ar y lefel gywir gyda chynifer o sgriwiau a phinnau â phosib. Dylai'r gwaith selio ar y tu fewn a'r tu fas hefyd fod yn berffaith. Rhaid i osodwyr Nolan Upvc fynychu rhaglen hyfforddiant tair blynedd er mwyn sicrhau eu bod yn gymwys i wneud y gwaith i'r safon uchaf.

Mae'r ffaith bod cwmni wedi ei gofrestru gyda FENSA yn rhoi iddo hygrededd ac mae'n brawf o ansawdd uchel. Mae arddangos nod barcud a chymeradwyaeth gan gyrff fel y Sefydliad Safonau Prydeinig a'r British Board of Agreement hefyd yn tystiolaethu hyn.

Dull arall o ganfod cwmni gwerth ei halen yw gofyn i gyn gwsmer iddynt. Os yw cwmni'n dda ac yn ddibynadwy, bydd yn cael y rhan fwyaf o'i fusnes wrth i gyn gwsmeriaid roi geirda. Mae Nolan uPVC yn cael y mwyafrif (60%) o'i fusnes o'r ffynonellau hyn. Gofynnwch i weld tystebau a siaradwch gyda chwsmeriaid os oes modd.

 
© Nolan uPVC 2007