Nolan uPVC windows
 

Dod â Ffrindiau Ynghyd
Teitl rhyfedd braidd i dudalen ar y we, ond un sy'n crynhoi'r hyn yw Nolan uPVC. Fel busnes mae gennym ddyletswydd i bawb sy'n ymwneud â'n busnes. Mae hyn yn golygu nid yn unig y perchnogion, ond y gweithwyr, y gymuned leol, cyflenwyr a chwsmeriaid sef enaid ein cwmni sy'n wirioneddol leol.

Trwy gymryd yr agwedd hon rydym wedi llwyddo i greu gwir gyfeillgarwch sydd wedi cynnig manteision eang. Partneriaethau sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth a chefnogaeth.

Canolfan Mileniwm Cymru
Mae'r ffaith ein bod yn noddi'r teithiau dyddiol o amgylch Canolfan Mileniwm Cymru ers Gwanwyn 2006 yn torri tir newydd i gwmni gwydr dwbl sy'n cael ei redeg gan gwmni annibynnol a theuluol. Gyda'r arwyddair 'Ffenestr ar Ganolfan Mileniwm Cymru', maent yn datgelu pob twll a chornel o flaen a chefn llwyfan gan ddenu mwy na 24,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Gan ein bod yn rhannu'r un math o werthoedd sef bod yn greadigol, arloesol ac ansawdd Cymreig, mae'r ffaith ein bod yn gallu cefnogi'r tirnod hwn yn ariannol yn golygu fod y teithiau yn gallu mynd o amgylch hyd at dair o weithiau'r dydd. Mae partneriaeth fel hyn yn golygu y gall ein staff a chwsmeriaid fynychu perfformiadau o sioeau mawr yn ogystal â chael gostyngiadau pris a theithiau o amgylch y ganolfan am ddim. Yn ogystal mae Nolan uPVC wedi ennill cydnabyddiaeth fel partner i Ganolfan Mileniwm Cymru a hynny ar y cyd ag enwau cenedlaethol a rhyngwladol megis HSBC, Tesco a Legal and General.

Theatr
Mae'r angerdd sydd gan Nolan uPVC am y celfyddydau perfformio yn parhau wrth i'r cwmni ymaelodi â Celf a Busnes Cymru, sef cangen Cymru o fudiad nad yw'n gwneud elw sy'n ymgeisio i fod y rhwydwaith creadigol mwyaf llwyddiannus ac eang yn y byd. Mae'n helpu pobl fusnes i gefnogi'r celfyddydau a'r celfyddydau i ysbrydoli pobl fusnes, oherwydd y gred fod busnes da a chelfyddyd wych yn creu cymdeithas gyfoethocach.

Mae 'A & B Professional Development Activities' yn cynnwys y Rheolwr Gyfarwyddwr Nolan Nicholas yn cynnig mentora personol i Jane Phillips o'r 'Mission Gallery' yn Abertawe. Yn ogystal, ym mis Chwefror 2007 wnaeth Nolan uPVC noddi'r achlysur Celf yn y Senedd pan wnaeth Theatr Ieuenctid Llanelli berfformio a roddodd gyfle i bobl ifanc yn eu harddegau berfformio drama yn adeilad y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd.

Chwaraeon
O rasio harnes traddodiadol i bêl-droed a rygbi, mae Nolan uPVC yn ddilynwr chwaraeon brwdfrydig gyda rhestr o nifer o fentrau sydd wedi derbyn nawdd. Yn newydd ar gyfer 2007 y mae'r nawdd y mae clwb rygbi Gleision Caerdydd wedi'i dderbyn sy'n dod â manteision i staff a chwsmeriaid tra'n codi ymwybyddiaeth o'n stiwdio ddylunio uPVC deulawr yn Heol Richmond, Caerdydd.

Y Gymuned Gymraeg
Gan fod mwy na 90% o'n gweithlu o 100 yn siarad Cymraeg, rydym yn cefnogi Mentrau Cymreig gan gynnwys yr Eisteddfod a'r Urdd yn rheolaidd gan hysbysebu ar S4C ac yn y papur newydd Dinesydd. Eleni roeddem yn un o brif noddwyr Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerfyrddin.

Elusennau
Hefyd mae Nolan uPVC yn cefnogi nifer o elusennau yng Nghymru gan gynnwys Apêl Arch Noa a Thŷ Hafan, Hospis Plant yng Nghymru gan godi miloedd o bunnoedd iddynt dros y blynyddoedd. Mentrau noddi yn cynnwys 'zip glides', arwerthiannau a nosweithiau cwis gydag enwogion gyda thrydedd Dawns Pili Pala Nolan uPVC yng Nghaerfyrddin yn codi swm anrhydeddus o £4 mil i Dŷ Hafan a hynny ar un noson yn unig

 
© Nolan uPVC 2007