layout layout layout layout layout
Nolan uPVC windows
 

Hanes y Cwmni - Nolan uPVC
Sefydlwyd Nolan uPVC yng Nghaerfyrddin 20 mlynedd yn ôl a hynny gan Nolan Nicholas y Rheolwr Gyfarwyddwr presennol.

Cyn saer yw Nolan oedd am greu busnes oedd yn canolbwyntio ar wasanaeth, hynny yw cwmni nad oedd yn nodweddiadol o ddelwedd cwmni ffenestri dwbl.

Ers 1987 mae'r busnes teuluol hwn sydd wedi ennill gwobrau, wedi datblygu trosiant sylweddol o £7miliwn gan ddatblygu i fod y cwmni ffenestri, drysau ac ystafelloedd haul annibynnol mwyaf yng Nghymru.

Dyma sydd gan Nolan i'w ddweud: "Roeddwn am i Nolan uPVC fod yr enw lleol y gallwch chi ymddiried ynddo i wneud gwelliannau i'ch cartref. Er bod y cwmni wedi tyfu a datblygu ers hynny, mae'r egwyddor yn parhau : sef i gyflwyno gwasanaeth o'r ansawdd gorau ym mhob peth yr ydym yn ei wneud o'r gwaith cynhyrchu i'r gofal wedi'r gwerthu."

Mae holl gynnyrch y cwmni yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru a'i osod gan osodwyr hyfforddedig y cwmni.

Mae Nicholas Nolan yn siŵr o un peth, fod ei staff yn ffactor pwysig yn llwyddiant y cwmni. Mae'r cwmni yn cynnig cyfleoedd gwaith ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau o waith gweinyddol a gwerthu i waith gosod a chynhyrchu, gan annog hyfforddiant tra'n gwneud y gwaith a hefyd trwy addysg mwy strwythurol ac ennill a datblygu cymwysterau. Dechreuodd pob un o'r uwch-reolwyr presennol fel staff dan hyfforddiant pan gafodd y cwmni ei sefydlu gyntaf.

Yn ddiweddar gwnaeth Nolan uPVC symud ei weithlu o 100 o'i safle genedigol yn Lôn y Ffair, Caerfyrddin i gyfleusterau newydd sbon £1.5 miliwn yn Nhre-Ioan, gan ddod â'r gwaith cynhyrchu, gweinyddu, gwerthu a dosbarthu i un lleoliad ac o dan yr un to, tra'n gwella'r offer a pheiriannau, logisteg a galluoedd TG.

Mae'r safle newydd hwn hefyd yn cynnwys stiwdio ddylunio newydd 4,500 troedfedd sgwâr fel ychwanegiad i stiwdio ddylunio uchel ei broffil sydd gan Nolan yng Nghaerdydd - yr ystafell arddangos uPVC fwyaf yng Nghymru.

Ynghyd â'r ethos cryf o ofalu am y cwsmer, mae gan Nolan uPVC frwdfrydedd mawr am y celfyddydau a hefyd am waith cymunedol arall.

Mae'n aelod o Celf a Busnes Cymru, a llwyddodd i dderbyn Canmoliaeth Uchel yng Ngwobrau Celf a Busnes 2007, gan noddi perfformiad Theatr Ieuenctid Llanelli yn y Senedd, Caerdydd eleni. Mae Nolan uPVC a'i staff yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o waith elusennol, gan gynnwys codi arian i Dŷ Hafan ac Apêl Arch Noa. Ar hyn o bryd Nolan uPVC yw'r unig gwmni sy'n noddi'r teithiau tywysedig o amgylch yr adeilad trawiadol hwnnw ym Mae Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru, yn ogystal â noddi Gleision Caerdydd a Scarlets Llanelli.

Dyma sydd gan Nicholas Nolan i'w ddweud: "Fel busnes rydym o'r farn fod gennym ddyletswydd i bawb sy'n ymwneud â'n busnes. Mae hyn yn golygu nid yn unig y perchnogion, ond hefyd y gweithwyr, y gymuned leol, cyflenwyr a chwsmeriaid sef enaid unrhyw fusnes gwir leol. Mae bod yn gymydog da ar lefel leol a chenedlaethol yng Nghymru yn hynod bwysig i ni ac mae wedi ein harwain ni i gymryd rhan a noddi amrywiaeth eang o fentrau cymunedol."

Yn 2000 enillodd Nolan uPVC y Gosodwyr Gorau a'r Ymgyrch Hyrwyddo orau yng Ngwobrau Glassex.

Yn 2004 fe'i ddyfarnwyd yn Gyflogwr y Flwyddyn gan Asiantaeth Gyflogaeth Gorllewin Cymru.

 
© Nolan uPVC 2007