layout layout layout layout layout
Nolan uPVC windows
 

Pencadlys ac Ystafell Arddangos Newydd gwerth £1 Miliwn
Mae Nolan uPVC wedi symud eu holl weithrediadau i adeilad newydd yn yr hen hufenfa ar Heol Llansteffan, Tre-Ioan, Caerfyrddin.

"Rydym wedi gwario tua £1.5 miliwn ar adnewyddu'r adeiladau gwag", esboniodd Nolan Nicholas, sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Nolan uPVC. "Rydym wrth ein bodd gyda'r gwaith gorffenedig ac yn ffyddiog ei fod nid yn unig yn gwireddu'n cynlluniau i ehangu dros y blynyddoedd nesaf, ond mae ef hefyd yn rhoi gwell golwg ar y safle ddiffaith oedd yma o'r blaen".

Mae'r adnoddau mwyaf cyfoes sydd yno yn galluogi Nolan uPVC i ganoli eu gweithrediadau cynhyrchu, gweinyddu, gwerthiant a dosbarthu dan yr un to a symud y gweithlu o dros 100 o'r safleoedd presennol yn Heol y Ffair, Caerfyrddin a'r ganolfan ddosbarthu yn Cross Hands.

Mae'r safle yn cynnwys ystafell ddylunio newydd 4,500 troedfedd sgwâr y gellid cerdded drwyddi ar ddau lawr ac yn cynnwys 5 ystafell haul sydd ar agor 6 diwrnod yr wythnos. Bydd y cwmni hefyd yn cadw'r ystafell ddylunio yng Nghaerdydd - yr ystafell arddangos uPVC fwyaf yng Nghymru.

"Mae gennym gynlluniau mawr o safbwynt ehangu ar gyfer Nolan uPVC", ychwanegodd Nolan Nicholas. "Mae'r buddsoddiad £1 miliwn yn rhan allweddol o'r datblygiad strategol hwnnw. Rydym nid yn unig wedi creu amgylchedd modern, soffistigedig i'n staff, ond hefyd rydym wedi diweddaru'n offer a'n peiriannau ynghyd â'n gallu i gyflenwi a'n medrau Technoleg Gwybodaeth.

Bydd hyn yn ein helpu i gynyddu sylfaen ein cwsmeriaid, yr allbwn cynhyrchu a'r gweithlu gan barhau i sicrhau cynnyrch o'r ansawdd uchaf ac ethos y gwasanaeth sydd yn graidd i'n llwyddiant".

Mae adfywio'r safle ar Heol Llansteffan yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Nolan uPVC.

 
 
© Nolan uPVC 2007