layout layout layout layout layout
Nolan uPVC windows
  TAWELWCH MEDDWL
Felly, rydych chi wedi cael golwg ar y wefan, wedi darllen y llyfryn a chwrdd â chynrychiolydd gwerthu. Ond sut rydych chi i wybod ein bod ni cystal ag yr ydym yn ei ddweud a sut y gallwch chi wneud yn siŵr fod y cynnyrch a'r gwasanaeth y byddwch yn ei dderbyn gwerth yr hyn rydych chi wedi cytuno i'w dalu?

Mae penderfynu gwneud gwelliannau i'ch cartref yn enwedig lle mae gwaith adeiladu yn y cwestiwn yn gallu bod yn risg. Felly dyma bethau fydd yn gwneud i chi deimlo'n well ac yn rhoi TAWELWCH MEDDWL i chi y bydd Nolan uPVC, sydd bellach yn ei 20fed blwyddyn, wir yn enw lleol y gallwch ymddiried ynddo.

Nid oes angen blaen-dâl
Nid ydym yn cymryd unrhyw fath o flaen-dâl o flaen llaw. Disgwylir i chi dalu wedi i'r gwaith gosod gael ei wneud.

Gwarant 10 mlynedd ar BOPETH
Dim dadlau na chwestiynau. Mae gwarant di-amod deng mlynedd ar yr holl gynnyrch a osodir gennym ni. Ac nid yn unig ar y cloeon, colfachau, gwydr a phroffiliau fel sy'n digwydd gyda'r rhan fwyaf o gwmnïau. Os mai y ni wnaeth y gwaith trydan, plwmio, gosod teils neu blastro wrth i'r gwaith gosod gael ei wneud, yna bydd gwarant ar y rhain hefyd.

Gofal arbennig wedi'r gwaith gosod - mae gennym lu o faniau a staff hyfforddedig i ddelio gydag unrhyw broblem sy'n codi gyda'r cynnyrch. O glo sy'n sticio i allwedd sydd wedi mynd ar goll neu sêl nad yw'n ffitio'n iawn, dim ond ffonio sy'n rhaid i chi ei wneud a bydd cynrychiolydd Nolan yn dod i'ch cartref. Byddwn yn eich ffonio'n gyntaf er mwyn trefnu amser cyfleus a bydd y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud yn rhad ac am ddim os yw o fewn 10 mlynedd i'r gwaith gosod.

Dim costau cudd
Y dyfynbris y rhoddir i chi ar y dechrau fydd y pris y byddwch yn ei dalu ar gwblhau'r gwaith. Mae'r holl gostau yn glir i chi eu gweld cyn i chi arwyddo ac ni fyddwn yn codi ceiniog yn fwy arnoch pe bai'n rhaid i ni ail blastro wal oherwydd ein gwaith gosod ni.

Dim pwysau i brynu
Mae hyn yn golygu na fyddwn yn cynnig unrhyw fanteision wrth werthu sy'n swnio'n rhy dda i fod yn wir ac nid yw'r staff gwerthu yn derbyn comisiwn am werthu. Yn hytrach maent yn cael eu hasesu yn ôl bodlonrwydd y cwsmer.

Enw da
Er ein bod yn hysbysebu'n gwasanaethau sy'n help i ledu'r gair am ein cwmni, mae'r rhan fwyaf o'n cwsmeriaid naill ai wedi prynu gennym yn y gorffennol neu wedi'u hargymell gan gwsmeriaid bodlon eraill. Yn llythrennol mae gennym filoedd o dystebau gwych. Gofynnwch am gael gweld rhai ohonynt pan fyddwch yn Stiwdio Ddylunio Nolan uPVC neu edrychwch ar y rhan o dan Astudiaeth Achos ar y wefan hon.

Dyfarniadau ac Achrediadau
Edrychwch ar ein tudalen ar achrediadau er mwyn cael gwybod mwy am yr holl ddyfarniadau y mae Nolan uPVC naill ai wedi'u hennill neu wedi'u henwebu i ennill. Hefyd edrychwch i weld faint o fudiadau a chyrff sicrwydd ansawdd yr ydym wedi derbyn achrediadau ganddynt. Ar y cyfan mae'n ddarlun fydd yn eich calonogi.

Stiwdios Dylunio
Profwch ein cynnyrch cyn i chi brynu yn un o'n 2 Stiwdio Ddylunio yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd. Gellir gweld sawl ystafell haul mewn amrywiaeth o arddulliau.

Ffoniwch ni ar 0845 600 90 80, am ragor o gyngor a gwybodaeth.

 
© Nolan uPVC 2007