layout layout layout layout layout
Nolan uPVC windows
 

Nodweddion Diogelwch
Ein nod yma yn Nolan uPVC yw i gadw eich cartref a'i gynnwys yn ddiogel.

Dim ond edrych ar y ffeithiau sy'n rhaid i chi ei wneud i werthfawrogi pwysigrwydd ffenestri a drysau diogel. Ym Mhrydain mae'r trydydd o bob achos o dorri i mewn i gartrefi yn digwydd oherwydd nad yw'r ffenestri cefn yn ddiogel a dwy ran o dair oherwydd bod y drysau yn is na'r safon.

Mae nodweddion diogelwch o'r radd flaenaf yn rhywbeth safonol ar nwyddau Nolan uPVC sy'n help i gadw troseddwyr draw. Mae gan bob drws fanyleb dylunio sydd wedi'u gwirio gan gynlluniau a gefnogir gan yr heddlu (er enghraifft Secured by Design) a phrofion gan gwmnïau yswiriant cynnwys cartref. Gyda phob ffenestr wedi'u hachredu gan dystysgrif BBA am 'Enhanced Resistance'.

Ar bob drws mae yna gloeon 'Safeware' - uwch system gloi sydd â saith pwynt iddo sy'n perthyn i gynllun o'r enw 'Secured by Design', ac sydd wedi'i brofi gan yr Athrofa Safonau Prydeinig, ac sy'n meddu ar farciau barcud PAS023 a 024. Dim ond dyrnaid o gwmnïau ym Mhrydain sydd wedi ennill y marciau barcud hyn.

Yn ogystal â'r cloeon a'r colfachau gorau o ran perfformiad, mae fframiau sydd wedi'u hatgyfnerthu a'u galfaneiddio yn help er mwyn gwrthsefyll lladron sy'n ceisio cael mynediad gan sicrhau fod pob clo yn cloi'n gadarn er mwyn sicrhau'r cryfder gorau posib. Mae gleinio mewnol, hynny yw gosod gwydr o'r tu fewn yn ffordd arall wych o sicrhau diogelwch ar ffenestri a lle bo'n briodol ar ddrysau hefyd, gan ei bod bron yn amhosib tynnu'r gwydr allan o'r tu fas.

Er mwyn profi pwynt, mae Nolan uPVC mor hyderus y gall cloeon ein drysau wrthsefyll lladrad byddwn yn rhoi hyd at £500 i chi os wnewch chi ddioddef lladrad a hynny o ganlyniad i glo yn methu*.

Ffoniwch ni ar 0845 600 90 80, am ragor o wybodaeth.

 
© Nolan uPVC 2007