Mae tystebau cwsmeriaid yn ffordd ddilys o ddarganfod os yw cwmni'n werth ei halen. Rhoddir cyfle i bob un o gwsmeriaid Nolan uPVC i lanw holiadur wedi i'r gwaith gael ei gwblhau. Yr ydym hefyd yn derbyn cannoedd o lythyron a chardiau gan gwsmeriaid sy'n dymuno diolch i ni am ein gwaith, gan wneud hynny o'u gwirfodd. Dyma ddetholiad o'r gorau ymysg y goreuon. Y mae gennym lawer mwy yn ein stiwdios dylunio yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin felly mae croeso i chi ofyn i'w gweld.
"Hwn yw'r trydydd tro yr ydym wedi cyflogi Nolan uPVC. Nid oes unrhyw gwmni arall cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn. Nolan sy'n dod i'r brig ac nid oes modd gwella ar y cwmni felly pam edrych ymhellach. Yr ydym yn gwbl fodlon unwaith yn rhagor."
Mrs a Mrs Dent, Dinbych-y-pysgod
"Ry'n ni wrth ein bodd â'r ffordd mae'n hystafell haul yn edrych a hoffwn ddiolch i dîm Nolan uPVC am eu proffesiynoldeb."
Mrs J Evans o Lanelli
"Diolchwn yn ddiffuant i Nolan uPVC a'i holl staff am osod ffenestri a drysau yn ein byngalo. Roedd y staff i gyd yn barod i helpu ac yn gwrtais, o'r gwerthwyr i'r bobl sy'n ateb y ffôn. Roedd y gosodwyr yn ddymunol ac yn effeithiol tu hwnt. Roedd hi'n braf delio â chwmni lleol i ddarparu cynnyrch. Byddwn yn argymell y gwaith wnaeth Nolan uPVC i'n ffrindiau a'n teulu ar bob cyfrif."
Mr a Mrs Thomas o Bowys
" Rydym yn fodlon iawn gyda'n ffenestri a'n drysau. Canmolaf broffesiynoldeb Nolan uPVC a'i holl staff, yn enwedig y gosodwyr a weithiodd mewn tywydd rhewllyd ac eto gyda gwên ar eu hwynebau. Fyddwn i ddim yn oedi cyn archebu gennych yn y dyfodol."
Mrs Caley o Benfro
"Carwn gymryd y cyfle hwn i ddatgan ein gwerthfawrogiad a'n bodlonrwydd yn y modd deliodd Nolan uPVC gyda'n harcheb, yn enwedig wrth gwblhau'r ystafell haul cyn y Nadolig, yn ôl yr addewid. Yr ydym yn falch dweud fod pob un o staff Nolan uPVC a fu ynghlwm â ni wedi gweithio mewn modd rhagorol ac effeithiol o'r eiliad y cyflwynwyd yr archeb tan i'r gwaith gael ei gwblhau. Roedd y cymdogion hyd yn oed wedi sylwi ar weithlu ymroddedig y cwmni!"
Mr John Tully o Abertawe
"Hwn yw'r ail dro i ni ddefnyddio Nolan uPVC ac unwaith eto yr ydym yn fodlon iawn ag ansawdd y ffenestri a'r drysau a osodwyd. Yr oeddwn hefyd wedi'n plesio gan y dull y cawsant eu gosod. Diolch i bawb a fu ynghlwm â'r gwaith."
Mr J Hall o Hendy-gwyn ar Daf
"Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn y pris osododd Nolan uPVC's ar gyfer ein hystafell haul. Roedd y gweithwyr a adeiladodd ac a osododd yr ystafell haul a'i sail yn effeithiol a phroffesiynol iawn. Mae llawer o bobl wedi ei ganmol gan ddweud mai'n hystafell haul ni yw'r un brafiaf maen nhw wedi ei gweld yn sgil ansawdd y gwneuthuriad a'r deunyddiau a ddefnyddiwyd. Gobeithiwn y cawn aml i flwyddyn o fwynhad ynddi."
Amanda a Jeff Jones o Lanelli
"Carwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Nolan uPVC am y gwasanaeth gwych y darparon nhw wrth adeiladu ein hystafell haul. Mae'r cynnyrch o'r safon uchaf ac rydym yn falch iawn gyda'r modd y gwnaed y gwaith. Byddwn hefyd yn hoffi'ch canmol am agwedd y tîm oedd yn gyfrifol am y dasg. Roedd y staff yn effeithiol ac o gymorth mawr, yn arbennig yn y modd yr oeddent yn gwneud awgrymiadau i wneud ein bywyd mor ddidrafferth â phosib.
"Gwnaed y gwaith mewn modd proffesiynol ac roeddem yn teimlo ein bod mewn dwylo diogel trwy gydol yr amser. Hwn yw'r ail waith i ni ddefnyddio Nolan uPVC a wnaethon ni ddim ystyried defnyddio unrhyw gwmni arall i adeiladu ein hystafell haul oherwydd rhoddodd ein profiad cyntaf gyda Nolan hyder i ni weithio gyda nhw eto."
Mr a Mrs Hopkins o Landeilo
"Llawer o ddiolch i Nolan a'r tîm am ddarparu a gosod y ffenestri, drysau a'r ystafell haul i'n rhagofynion ni. Roeddem yn hynod o falch o safon y gwaith ac mae'r ystafell haul yn ystafell ychwanegol i dreulio llawer o oriau'n ymlacio gyda'r teulu a ffrindiau. Diolch yn arbennig i'r tîm gwerthu, i'r gosodwyr, a staff y gweithdy a oedd yn hynod barod eu cymwynas, yn gwrtais ac o hyd yn cadw i'w haddewidion. Byddwn yn sicr o'ch argymell i ffrindiau a theulu."
Mr & Mrs Jones o Lanelli
"Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Nolan am ei gwasanaeth cyfeillgar ac effeithiol trwy gydol y gwaith. Yn benodol, hoffwn ganmol eich tîm am weithio mewn dull mor broffesiynol tra wrthi'n gwneud y gwaith. Maent yn gredyd i'ch cwmni ac iddyn nhw eu hunain."
Colin & Leanne o Aberystwyth
"Yr unig ffordd y gellir disgrifio'r gwasanaeth a dderbyniais gan yr asiant gwerthu, y peiriannydd, gosodwyr a'r gofal a dderbyniais ar ôl y gwerthu yw arbennig. Yn y dyfodol agos pan fyddaf yn rhoi ffenestri newydd yn y tû, rwy'n bwriadu defnyddio'ch cwmni unwaith yn rhagor."
Steffan Thomas o Gaerfyrddin
"Hoffem fynegi ein diolch diffuant i Nolan a'r holl staff am wneud eu gwaith mewn modd proffesiynol ac o ansawdd mor uchel. Doedd dim yn ormod o drafferth ac roeddent yn barod iawn eu cymwynas. Ni fyddwn yn oedi eu hawgrymu i eraill sy'n gofyn am fanylion y cwmni."
Mr & Mrs Evans o Bont-henri
"Hoffwn ddiolch i Nolan am ddull effeithiol ei staff wrth gwblhau adnewyddu'r ffenestri a'r cynteddau. Cafodd pob agwedd o'r cytundeb ei ymdrin â mewn dull effeithiol a phroffesiynol. Aeth yr arolwg cyntaf yn bellach na feddyliais, gan awgrymu ffyrdd o gael y canlyniadau gorau, gan geisio gosod y ffenestri ag ati heb greu llanast ac i fod o safon o'r radd flaenaf. Roedd tîm y gosodwyr yn gymwysedig, gan ymgymryd â'r gwaith mewn ffordd lân, effeithiol ac ar amser. Cymerodd y gweithwyr eu hamser i sicrhau fod y gosod o'r safon uchaf ac mae'r canlyniad yn brawf o'u gwaith a'u sgil. Maent yn gredyd i gwmni Nolan.
Mr Peter Williams o Geredigion
"Hoffwn ddiolch i'r gosodwyr a ddaeth i osod ffenestri newydd yn ein ty ni. Roedd y gweithwyr yn gwrtais ac yn gwbl broffesiynol. Doedd dim yn ormod o drafferth iddynt ac fe wnaethon hyd yn oed gynnig rhoi'r cysgodlenni yn ôl wedi iddynt gwblhau'r gwaith. Fe wnaethon yn siŵr fod y lle yn lân ac fel pin mewn papur. Maent yn llysgenhadon arbennig i'ch cwmni."
Mrs Anne Martin o Dycroes
"Rwy'n falch iawn i ddweud ein bod yn 100% hapus gyda'n hystafell haul. Gweithiodd David a Gareth yn ddiwyd dros ben, roeddynt yn gwybod yn union beth oedd i'w wneud, yn gwrtais ac roedd eu gwaith o safon arbennig ac fe fyddwn yn eu hargymell i unrhywun."
Mr & Mrs Williams o Gaerdydd
"Mae safon y gofal cwsmer, ansawdd yr uPVC yn arbennig ac fe fyddwn yn argymell Nolan uPVC i unrhyw un. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Darren am oruchwylio'r gwaith. Gwerthfawrogwn ei garedigrwydd a'i wybodaeth yn fawr iawn o'r dechrau i'r diwedd."
Mrs Davies o Abertawe
"Mae'r pris a'r cynnyrch yn arbennig. Teimlais fy mod wedi cael gofal cwsmer o'r radd flaenaf o ddechrau'r gwaith hyd at ei orffen."
Mrs D Evans o Gaerdydd
"Roeddem am gael 3 neu 4 o brisiau am wneud y gwaith ond roeddem mor hapus na wnaeth Nolan roi pwysau arnom i archebu ganddynt, a dyma pam y penderfynon ni i ddefnyddio Nolan uPVC."
Mr and Mrs Wilmot o Gaerdydd
"Yn wreiddiol, fe ddarparodd Nolan uPVC fy ffenestri a'r drws cefn ychydig flynyddoedd yn ôl ac roeddwn yn bwriadu eich defnyddio eto pan fyddwn yn newid y drws blaen. Petawn i'n symud, ni fyddwn yn ystyried defnyddio unrhyw gwmni arall oni bai am Nolan."
Miss L Humphries o Gaerdydd
"Doedd dim posibl i'r gosodwyr fod yn fwy cwrtais a glân, roedd fel petai teulu fy hunan yn gwneud y gwaith. Diolch yn fawr iawn."
Mrs M Freeman o Gaerfyrddin
"Roedd gen i ddisgwyliadau uchel iawn ond fe lwyddodd Nolan uPVC i wella ar hynny hyd yn oed. Da iawn."
J Darby o St Mellons
"Rwyf wedi argymell Nolan uPVC i fy ffrindiau a byddaf yn parhau i wneud hynny. Mae hyn oherwydd ansawdd arbennig y cynnyrch, y pris a'r gwasanaeth proffesiynol a chyfeillgar yr wyf wedi'i brofi."
Mrs Jenkins o Abertawe
|