Gwasanaethau Masnachol Nolan uPVC
Croeso i Wasanaethau Masnachol Nolan uPVC. Rydym wedi bod yn cydweithio gyda phartneriaid masnachol ers 20 mlynedd yn darparu ffenestri, drysau ac ystafelloedd o ansawdd. Beth bynnag yw'r prosiect, os yw'n waith adnewyddu, yn adeilad newydd, yn gytundeb bach neu'n ddatblygiad mawr masnachol, gall ein tîm o arbenigwyr gynnig gwasanaeth llawn i chi. Gallwn gynnig dyfynbrisiau i chi, gwaith cynhyrchu wedi'i deilwra ar eich cyfer, a gall ein gosodwyr hyfforddedig ei gyflwyno i chi'n gyflym, os oes angen.
Ers 1987 y ni yw'r cwmni annibynnol gwerthu ffenestri, drysau ac ystafelloedd haul mwyaf yng Nghymru gyda throsiant o £7miliwn ac yn parhau i dyfu. Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddatblygu tra'n cynnig gwasanaeth dibynadwy o ansawdd rydym wedi buddsoddi £1miliwn mewn cyfleusterau newydd sbon yn Nhre Ioan, Caerfyrddin, gan ddod â'r gwaith cynhyrchu, gweinyddu a dosbarthu i gyd o dan yr un to.
Rhan o'ch tîm chi
Yma yn Nolan uPVC rydym yn ymfalchïo mewn bod yn rhan o dîm ac mae gennym hanes da o allu adeiladu perthynas dda iawn gyda'n cwsmeriaid masnachol, gan seilio hynny ar wasanaeth gwych a'r gallu i gyflwyno cynnyrch yn gyflym. Rydym yn defnyddio'r un math o agwedd pan yn cefnogi contractwyr unigol, datblygwyr masnachol neu fudiadau sy'n rheoli eiddo. Does dim gwahaniaeth os ydym ond yn paratoi cynnyrch, neu'n rheoli'r holl waith gosod o'r dechrau i'r diwedd, ein nod yw sicrhau fod cwsmeriaid yn hollol fodlon.
Mae ein Gwasanaeth Prosiectau Masnachol yn cynnwys:
- Gwaith mesur yn rhad ac am ddim
- Cyngor technegol a chymorth safle yn rhad ac am ddim
- Aelod o staff Nolan uPVC yn arbennig i chi
- Deunyddiau marchnata yn rhad ac am ddim er mwyn eich helpu chi gyda'ch cwsmeriaid
- Byddwn yn dosbarthu'r nwyddau i chi yn rhad ac am ddim yn un o'n cerbydau pwrpasol
- Gostyngiadau pris i fasnachwyr
- Gallwch agor cyfrif gyda ni (ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf)
- Gwasanaeth ôl-werthu
Dosbarthu ar amser
Rydym wedi datblygu enw da am weithio'n gyflym a hynny heb gyfaddawdu dim ar ansawdd. Fel arfer mae'n cymryd deng niwrnod i bythefnos o archebu i dderbyn y nwyddau a gallwn gynnig ei wneud ar yr un diwrnod i nwyddau uPVC a gwydr.
Portffolio o Nwyddau.
Mae ein hamrediad cynhwysfawr o gynnyrch, mewn amrywiaeth eang o arddulliau modern a thraddodiadol wedi'u cynhyrchu yng Nghymru. Mae pob peth yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu presennol gan gynnwys Dogfen L am effeithlonrwydd ynni. Mae gan bob un raddfa U o 1.8 ac mae gan lawer Farciau Barcud BSI. Mae yna warant ddeng mlynedd ar yr holl gynnyrch.
Ffenestri: Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o arddulliau gyda gwahanol liw fframiau, gwydr a dewisiadau agor, yn cynnwys ffenestr godi y dull traddodiadol. Mae'r gwydr wedi'i roi yn fewnol a defnyddir systemau cloi Espagnolette ar gyfer y diogelwch gorau posib. Mae ganddynt dystysgrif BBA.
Drysau: Mae gennym gannoedd o wahanol ddewisiadau i ddrysau o baneli lliw solet, gwydr lliw i ddrysau patio i ddrysau Ffrengig. Ceir amrywiaeth eang o ychwanegiadau mewn gwahanol arddulliau a lliwiau. Mae bob un o'r drysau fframiau sydd wedi'u hatgyfnerthu â dur wedi'i galfaneiddio a rhoddir cloeon Safeware arnynt, sef system gloi saith pwynt a gymeradwyir gan 'Secured by Design' a dyma sydd wedi ennill y Marciau Barcud PAS023 a 024 iddynt.
Ystafelloedd Haul: Gallwn gynnig ystafelloedd haul wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer eich anghenion chi mewn amrywiaeth eang o arddulliau, gan gynnwys gwasanaeth gosod cyflawn. Mae'r holl waith yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu yn cynnwys inswleiddio llawr 100mm a wal 50mm. Defnyddir cymalau wal 'Furfix' bob amser gan ein bod o'r farn mai dyma'r ffordd orau o osod ystafell haul wrth wal eiddo.
Cynteddau a Chanopïau: Gallwn gynnig unrhyw beth o gyntedd o friciau, waliau gyda briciau bach gyda rhywfaint o wydr, i gynteddau neu ganopïau sy'n wydr i gyd.
Cynnyrch Dŵr Glaw: Pob peth o doeon sy'n dal dŵr o 'soffits' a byrddau blaen i gafnau dal glaw.
Gosod Ychwanegiadau: Mae'r gwaith o osod yn dod o fewn i'r pris a roddir. Fodd bynnag, gallwn hefyd gynnig gosod ychwanegiadau megis gosod sgriwiau a siliconau ar wahân.
Cynnyrch uPVC: Mae ein proffiliau uPVC yn meddu ar yr holl safonau ansawdd o Farc Barcud BSI i achrediad BBA. Rydym yn defnyddio Proffil 22 trwch 60mm sef systemau o ansawdd uchel sydd â systemau aml siambr gyda seliau all wrthsefyll y tywydd.
Cynnyrch Gwydr: Defnyddir gwydr Pilkington K sydd o ansawdd uchel ac sy'n isel o ran effeithlonrwydd ynni "E". Pilkington Activ yw'r gwydr cyntaf yn y byd all lanhau ei hunan a gallwn ddosbarthu gwydr yn unigol neu'n unedau gwydr dwbl.
Drysau Garej: Dyma wasanaeth newydd gan Nolan uPVC, sy'n ein galluogi ni i gynnig pob peth o ran anghenion ffenestri a drysau.
Prosiectau Masnachol Mawr
Ar gyfer prosiectau masnachol mawr rydym yn cynnig rheolwr prosiect fydd yn eich cynorthwyo chi o'r gwaith prisio cychwynnol a thrafodaeth cynnyrch i'r dosbarthu a'r gwaith gorffenedig. Mae gan ein tîm masnachol lawer o brofiad o gynorthwyo i brisio a gwneud y dewisiadau cywir ar gyfer datblygiadau newydd a gwaith adnewyddu, naill ai yn y sector preifat neu gyhoeddus. Mae prosiectau mawr diweddar yn cynnwys cytundeb sy'n werth sawl miliwn wnaethom lwyddo i'w ennill eleni gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i osod ffenestri a drysau dwbl uPVC yn ei stoc dai ar draws y sir.
Cysylltu â Ni
Ffoniwch Dîm Masnachol Nolan uPVC ar Ewch i weld ein stiwdios dylunio yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin.
Neu, CLICIWCH YMA a llanw ffurflen
e-bost: info@nolanupvc.co.uk |