layout layout layout layout layout
Nolan uPVC windows
  Pam Nolan UPVC : Cyflwyniad
Nolan uPVC yw'r dewis i'ch ffordd o fyw. Mae'n gwmni annibynnol, teuluol sy'n cyflogi mwy na 100 o staff, ac yn yr 20 mlynedd ers i'r cwmni ddechrau rydym wedi ennill enw da fel y prif gwmni uPVC yn ne Cymru.

Gyda phencadlys yng Nghaerfyrddin a swyddfa arall yng Nghaerdydd - yr ystafell arddangos ffenestri, drysau ac ystafelloedd gwydr uPVC fwyaf yng Nghymru - rydym yn dylunio, cynhyrchu a gosod nwyddau o'r safon uchaf ac i gyd-fynd â hyn mae gennym wasanaeth cwsmer cyfeillgar a gofal wedi i'r gwerthu gael ei wneud.

Rydym yn gweithio dros Gymru gyfan ac yn cynnig cynnyrch o safon mewn amrywiaeth o arddulliau modern a thraddodiadol sy'n cwrdd â gofynion perchnogion tai o ran effeithlonrwydd ynni a diogelwch.

Rydym yn ystyriol ac yn feddylgar a phun ai ydym yn ail osod dim ond un ffenestr neu'n gosod ystafell wydr haul Fictoraidd, rydym yn gwneud gwaith yng nghartre'r cwsmer felly fe ddylid ei drin gyda pharch, gofal ac ystyriaeth.

Ffoniwch ni ar 0845 600 90 80, am ragor o gyngor a gwybodaeth.

Pam Nolan uPVC
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
© Nolan uPVC 2007