| |
Pam Nolan UPVC : Cadw Addewidion
Pun ai eich bod yn dewis ffenestri, drysau neu ystafelloedd haul, mae addewid Nolan uPVC yn berthnasol i bob cwsmer. Mae rhoi'r cwsmer yn gyntaf wedi bod yn sail i waith Nolan uPVC o'r cychwyn cyntaf a dyma sy'n ein gwneud yn wahanol i gwmnïau ffenestri dwbl eraill gan olygu fod gennym enw yn lleol fel cwmni y gallwch chi ymddiried ynddo.
- Dim blaendal. Nid ydym yn derbyn unrhyw fath o flaendal. Mae ein cwsmeriaid yn talu wedi i'r gwaith gosod gael ei gwblhau.
- Gwarant 10 mlynedd ar BOPETH. Dim hollti blew ac ni ofynnir unrhyw gwestiynau. Rhoddir gwarant o ddeng mlynedd heb amodau ar yr holl gynnyrch a osodir gennym ni. Ac nid dim ond y cloeon, colfachau, gwydr a phroffiliau sy'n cael eu gwarantu fel a wneir gan y rhan fwyaf o gwmnïau ffenestri dwbl. Os ydym wedi bod yn gyfrifol am y gwaith trydan, gwaith plymwr, teilo neu blastro wrth i'r gosod gael ei wneud, yna byddwn yn rhoi gwarant ar y rhain hefyd.
- Gofal eithriadol wedi'r gwaith gosod. Mae gennym leng o faniau a staff hyfforddedig all ddelio ag unrhyw broblemau. O glo sy'n gwrthod troi i allwedd sydd wedi mynd ar goll neu sêl ddiffygiol, rhowch alwad gyflym ac fe fyddwn yno i ddatrys y broblem. Byddwn yn eich ffonio chi'n gyntaf er mwyn cytuno ar amser cyfleus a bydd y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud yn rhad ac am ddim os yw o fewn 10 mlynedd i'r gwaith gosod.
- Dim costau cudd. Y pris fyddwn yn ei amcangyfrif i chi ar y dechrau fydd y pris fyddwch yn ei dalu ar gwblhau'r gwaith. Gallwch weld yr holl gostau cyn i chi arwyddo ac yn bendant ni fyddwn yn codi ceiniog yn fwy pe bawn yn gorfod ail blastro wal oherwydd gwaith gosod gennym ni.
- Dim pwysau i brynu. Wrth hyn rydym yn golygu nad ydym yn cynnal sêl sy'n swnio'n rhy dda i fod yn wir ac nid yw ein hymgynghorwyr dylunio yn cael eu talu ar gomisiwn. Yn hytrach rydym yn eu hasesu yn ôl pa mor hapus yw ein cwsmeriaid.
Rydym yn ystyriol ac yn feddylgar a phun ai ydym yn ail osod dim ond un ffenestr neu'n gosod ystafell haul fawr Fictoraidd, rydym yn gwneud gwaith yng nghartre'r cwsmer felly fe ddylid ei drin gyda pharch, gofal ac ystyriaeth.
Ffoniwch ni ar , am ragor o gyngor a gwybodaeth. |