layout layout layout layout layout
Nolan uPVC windows
 

Pam Nolan UPVC : Cam Wrth Gam
Mae cyfathrebu da yn holl bwysig pan yn gwneud gwelliannau i gartref. Dywedwch wrth bobl beth rydych yn mynd i wneud, pryd fyddwch yn ei wneud ac am ba gost a byddant yn hapus. Syml. Dyma fydd yn digwydd pan fyddwch yn cysylltu â Nolan uPVC.

Cam 1 - Bydd gennych y dewis o dderbyn gwybodaeth trwy'r post a/neu drefnu amser a dyddiad cyfleus er mwyn i ymgynghorwr dylunio Nolan uPVC ymweld â'ch cartref. Byddwch yn derbyn llythyr i gadarnhau'r apwyntiad ynghyd ag unrhyw ddeunydd darllen perthnasol.

Cam 2 - Pan fyddwn yn ymweld, bydd yna ymgynghorwr dylunio yn trafod eich anghenion, ateb unrhyw gwestiynau gan awgrymu pa gynnyrch sydd fwyaf addas. Byddant yn cymryd mesuriadau ac yn anfon dyfynbris atoch yn y post.

Cam 3 - Os ydych yn hapus gyda'r dyfynbris, byddwch yn derbyn cytundeb yn y post i chi ei arwyddo a'i anfon yn ôl i'r pencadlys. O fewn saith niwrnod bydd syrfëwr yn ymweld â'ch eiddo er mwyn gwneud arolwg manwl a chywir a gall ateb unrhyw gwestiynau eraill fydd o bosib gennych chi.

Cam 4 - Byddwch yn derbyn llythyr gyda dyddiad gosod ac os nad yw'n gyfleus yna gellir ei ail drefnu. Fel arfer mae'r gwaith gosod yn cael ei wneud o fewn cyfnod o chwe wythnos sy'n rhoi digon o amser i ni ddylunio a chynhyrchu.

Cam 5 - Mae pob aelod o'n timau gosod yn grefftwyr hyfforddedig sydd â blynyddoedd o brofiad o weithio yn eiddo pobl. Cyn gadael ein Pencadlys, byddant yn gwneud gwaith archwilio terfynol ar bob eitem er mwyn gwneud yn siŵr fod y gwaith gosod yn mynd mor hwylus â phosib. Unwaith y byddant yn eich eiddo, byddant yn gwneud eu gorau i amharu cyn lleied â phosib gan wneud yn siŵr fod unrhyw gelfi sydd yn agos at fan lle maent yn gweithio yn cael eu diogelu. Bydd yr holl eitemau a dynnir o'ch eiddo, ac nad sydd eu hangen mwyach, yn mynd i'r man ailgylchu sydd gennym. Trwy gydol y gwaith gosod, bydd yna arolygwr yn archwilio'r gwaith i sicrhau ei fod yn cyrraedd safonau Nolan uPVC.

Cam 6 - Ar gwblhau'r gwaith, byddwch yn derbyn anfoneb ynghyd â holiadur atborth y cwsmer. Gallwch dalu (arian neu siec) i uwch osodwr Nolan uPVC cyn iddo adael eich eiddo, neu gallwch dalu yn ein stiwdio dylunio. Pe baech yn dymuno talu gyda cherdyn debyd neu gredyd, gellir gwneud hyn dros y ffôn neu dewch i'n gweld.

ON - Gan fod gosod ystafelloedd haul yn fwy cymhleth, ac mae angen gwneud mwy o waith, gallwch ddisgwyl derbyn amlinelliad o'r rhaglen waith sydd fel arfer dros gyfnod o chwech i wyth wythnos. O'r dyddiad gosod, byddwch yn derbyn manylion uwch arolygwr y gallwch gysylltu ag ef ar ei rif symudol ar unrhyw adeg os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon.

Ffoniwch ni ar 0845 600 90 80, am ragor o gyngor a gwybodaeth.

Pam Nolan uPVC
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
© Nolan uPVC 2007