Pam Nolan UPVC : Gwobrau ac Achrediadau
Mae'n bosib dweud llawer am gwmni wrth y mudiadau y mae wedi ennill achrediadau gyda hwy a'r gwobrau y mae wedi'u hennill. Trwy gyfuno'r ddau beth mae'n rhoi calondid i gwsmeriaid eu bod yn delio gyda busnes cadarn na fydd yn eu siomi.
FENSA
Ym myd ffenestri dwbl, mae bod yn aelod o FENSA yn fesur da o ran safon cwmni. Ei ystyr yw "Fenestration Self-Assessment Scheme" ac fe'i sefydlwyd gan Ffederasiwn "Glass and Glazing" ar gais gan Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog, mae'n bodoli er mwyn sicrhau fod perchnogion cartrefi yn derbyn tystysgrif cydymffurfio gan osodwyr ffenestri dwbl ar safonau perfformiad thermol wrth ail osod ffenestri a drysau.
Sicrwydd trwy Ddylunio 'Secured by Design'
Mae Sicrwydd trwy Ddylunio yn fenter gan Heddlu'r DU er mwyn cefnogi'r egwyddorion o 'designing out crime'. Mae'n asesu cynnyrch wrth ail greu profion corfforol arferol yn seiliedig ar ddulliau arferol mewn achosion o fwrgleriaeth. Mae cynnyrch llwyddiannus yn ennill cymeradwyaeth Sicrwydd trwy Ddylunio a'r hawl i arddangos rhif trwydded a logo. Yn Nolan uPVC mae cloeon Safeware ar bob drws - uwch system gloi sydd â saith pwynt a gymeradwyir gan Sicrwydd trwy Ddylunio. Y ni oedd y cwmni ffenestri dwbl cyntaf yng Nghymru i ennill y math hwn o gymeradwyaeth.
Marciau Barcud
Mae'r Marc Barcud "British Standard's Institute (BSI)" yn symbol o safon sy'n gyfarwydd i bobl ar draws y byd, gan ddynodi fod y cynnyrch y mae'n perthyn iddo wedi bod yn ymwneud â rhai o brosesau profi mwyaf trwyadl yn y byd. Mae drysau Nolan uPVC, wedi ennill BSI PAS023 a 024. Dim ond dyrnaid o gwmnïau yn y DU sydd wedi ennill y marciau barcud hyn.
Tystysgrif BBA
Mae'r "British Board of Agrément Certificates" wedi bod yn darparu gwybodaeth dda ac annibynnol ar berfformiad cynnyrch adeiladu dros y 40 mlynedd diwethaf. Dyma brif gorff cymeradwyo'r DU ar gyfer cynnyrch adeiladu newydd ac ar gyfer gosod cynnyrch ac mae'r tystysgrifau yn rhai a gydnabyddir gan rai sy'n gyfrifol yn y maes hwn a gan eraill sy'n gwneud penderfyniadau yn y diwydiant fel prawf fod y cynnyrch wedi'u profi'n drwyadl ganddynt, a bydd hyn yn caniatàu i ni gydymffurfio gyda Rheoliadau Adeiladu a sicrhau y byddant yn para am gyfnod penodol. Mae gan ffenestri a drysau Nolan uPVC dystysgrifau BBA ac achrediadau BBA uwch er mwyn cydnabod eu nodweddion o ran diogelwch.
Gwobrau Glassex
Gwobrau Glassex yw'r unig ddigwyddiad yn y DU sy'n ymwneud yn benodol â'r diwydiant gwydr, ac mae'r holl brif gwmnïau ym Mhrydain yn ei fynychu. Mae Nolan uPVC wedi ennill dau o'r gwobrau cenedlaethol mawreddog hyn, gan ennill gwobr fel Gosodwr Domestig y Flwyddyn a'r Ymgyrch Hyrwyddo am y Flwyddyn.
Llwyddiant penigamp yn ei hunan ac un sydd hyd yn oed yn fwy hynod o ystyried mai y ni nid yn unig oedd y cwmni cyntaf o Gymru i gyrraedd y rownd derfynol, ond y cyntaf i'w ennill.
Cyflogwr y Flwyddyn
Fel cydnabyddiaeth o'n cefnogaeth i Gynllun y Fargen Newydd Asiantaeth Cyflogaeth Gorllewin Cymru, roeddem wrth ein boddau i dderbyn gwobr Cyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Llwyddiant Gorllewin Cymru 2002. Cynhelir y gwobrau gan Asiantaeth Cyflogaeth Gorllewin Cymru er mwyn cydnabod cwmnïau yn ardaloedd Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phenfro sy'n recriwtio ac yn hyfforddi rhai sydd wedi bod yn ddi waith ers amser.
Gwobrau Celf a Busnes
Bwriad Gwobrau Celf a Busnes Cymru yw i annog, cydnabod a dathlu partneriaethau enghreifftiol rhwng busnesau a chelf. Ar ddechrau'r flwyddyn hon, enwebwyd Nolan uPVC am Wobr Celf a Busnes Cymru yn y categori 'Celf a Busnesau Bychain'. Cafodd yr enwebiad ei wneud o ganlyniad i waith ar Ganolfan Mileniwm Cymru mewn cydnabyddiaeth o'i nawdd hael ac arloesol i'r teithiau tywys o amgylch y lleoliad nodedig hwn yng Nghymru. Cynhelir Seremoni Gwobrau Celf a Busnes Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Llun 9 Gorffennaf 2007.
Canolfan Mileniwm Cymru
Mae'r ffaith ein bod wedi noddi'r teithiau tywys o amgylch Canolfan Mileniwm Cymru ers gwanwyn 2006 tan 2008 wedi torri tir newydd i gwmni ffenestri dwbl annibynnol teuluol. Gyda'r is-bennawd 'providing a window on Wales Millennium Centre', mae'r teithiau hyn yn datgelu pob twll a chornel a hynny o flaen llwyfan a thu cefn gan ddenu mwy na 24,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae ein cefnogaeth ariannol i'r tirnod hwn wedi golygu bod Nolan uPVC wedi ennill cydnabyddiaeth fel partner i Ganolfan Mileniwm Cymru a hynny ar y cyd ag enwau cenedlaethol a rhyngwladol megis HSBC, Tesco a Legal & General.
Gleision Caerdydd
Mae Nolan uPVC wedi ennill achrediad swyddogol fel un o brif bartneriaid clwb rygbi Gleision Caerdydd ynghyd â chwmnïau mawr BMI Baby, Blackhorse, HSS Hire a Worthingtons. Fel noddwyr cysylltiol, bydd ein hymrwymiad am ddwy flynedd yn helpu i godi ymwybyddiaeth am ein busnes yn ardal Caerdydd.
Ffoniwch ni ar , am ragor o gyngor a gwybodaeth. |