Pam Nolan UPVC : Sylfaenydd y Cwmni
Sefydlwyd Nolan uPVC gan Nolan Nicholas, cyn saer a oedd am greu busnes wedi'i seilio ar wasanaeth nad oedd yn cydymffurfio â'r ddelwedd nodweddiadol o gwmnïau ffenestri dwbl. Mae e'n dal wrth y llyw, ac nid yw ei ethos o gyflwyno safon a bodlonrwydd ar bob lefel o wasanaeth wedi newid.
"Sefydlais Nolan uPVC yn 1987 er mwyn bod yr enw lleol y gellir ymddiried ynddo i wneud gwelliannau yn y cartref. Er bod y cwmni wedi tyfu a datblygu ers hynny, mae'r egwyddor wedi parhau yr un fath: i gyflwyno'r safon uchaf ym mhob peth yr ydym yn ei wneud o gynhyrchu i osod i'r gofal wedi'r gwerthu.
Mae cymaint o'n cwsmeriaid yn dod atom trwy eirda gan gwsmer bodlon. Unwaith y mae cwsmer wedi gweithio gyda ni maent yn gweld y gwahaniaeth gan naill ai ddod yn ôl atom neu ein hargymell i ffrindiau a theulu.
Mae fy enw ar bob ffenestr, drws ac ystafell haul rydym yn eu gwneud oherwydd mae'n rhaid i bob un gwrdd â fy safonau cyn iddo adael y ffatri. Mae hyn yn golygu eich bod yn prynu'r gorau.
Pan fyddwch yn delio gyda fy nhîm byddwch yn derbyn cyngor a help, ac nid pwysau i brynu. Rwy'n rhoi fy ngair yn bersonol i chi."

Nolan Nicholas
Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr
Ffoniwch ni ar , am ragor o gyngor a gwybodaeth. |