Pam Nolan UPVC : Arbenigwyr Gosod Wrth gymharu cwmnïau ar ansawdd eu cynnyrch efallai nad yw i weld fod yna rhyw lawer o wahaniaeth. Er ei bod yn iawn i gael cynnyrch o safon, os nad yw'r gwaith gosod yn cael ei wneud yn dda yna byddwch yn cael eich siomi gan na fydd y gwydr dwbl yn gweithio i chi.
Mae Nolan uPVC yn deall pwysigrwydd gwaith gosod da. Dylai fframiau fod yn berffaith sgwâr gyda'r nifer cywir o sgriwiau a phinnau. Hefyd fe ddylai'r sêl y tu fewn a thu allan fod yn berffaith.
Mae holl osodwyr Nolan uPVC wedi ymgymryd â rhaglen hyfforddiant tair blynedd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cwrdd â'r safonau. Rydym hefyd yn gwneud yn siŵr fod pob un ohonynt yn weithiwr ystyriol a meddylgar tra'n gweithio yng nghartref y cwsmer.
Ffoniwch ni ar , am ragor o gyngor a gwybodaeth. |