| |
Cynnyrch : Ffenestri : Lliw'r Ffrâm
Mae ffenestri uPVC Nolan, o bob arddull, ar gael mewn gwyn llachar neu wedi'u gwneud (gyda ffoil ffotograffig) i edrych fel pren - derw golau, mahogani neu rosbren. 'Rydym hefyd yn cynnig y dewis o gael gwyn ar y naill ochr ac ymddangosiad pren ar y llall. Mae'r opsiwn hwn yn arbennig o addas os ydych am gael gorffeniad llachar golau ar y tu mewn, ac ymddangosiad pren mwy naturiol ar y tu allan. Os nad yw'r un o'r lliwiau safonol hyn at eich dant, fe allwn ni, am dâl bychan ychwanegol, gynnig unrhyw liw sydd ei eisiau arnoch gyda'n gwasanaeth cydweddu lliw.
Os ydych am wybod mwy am ein cynnyrch, cysylltwch â ni naill ai trwy e/bost neu drwy ffonio 0845 600 90 80 |